Taliad Tywydd Oer: 200,000 yn gymwys yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae dros 200,000 o bobl yng Nghymru'n cael eu hannog i sicrhau nad ydyn nhw'n colli allan ar arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU, er mwyn ymdopi â'r tywydd oer wrth i'r gaeaf agosau.
Mae'r bobl yma ymysg tua phedair miliwn ar draws y DU all elwa o daliad o £25 yn ystod cyfnodau o dywydd oer.
Mae tymor y Taliad Tywydd Oer yn cychwyn dydd Sadwrn, Tachwedd 1.
Mae Gweinidog yr Adran Gwaith a Phensiynau, Steve Webb, yn dweud ei bod hi'n hanfodol bod pensiynwyr a phobl fregus yn derbyn cymorth.
Mae taliadau'n cael eu gwneud i bensiynwyr tlawd a chartrefi incwm isel pan mae'r tymheredd yn disgyn i'r rhewbwynt neu îs am saith niwrnod yn olynnol, neu os oes rhagolygon y bydd hynny'n digwydd.
Mae'r Llywodraeth yn amcangyfrif bod tua 204,000 o bobl wedi bod yn gymwys i dderbyn y taliad yng Nghymru llynedd.
Gall unrhyw un ddarganfod os ydyn nhw'n gymwys i dderbyn taliad drwy alw 0800 991234.