Llofrudd yn colli apêl yn erbyn dedfryd gydol-oes
- Cyhoeddwyd

Mae llofrudd, a adawodd corff merch mewn coedlan ger Rhuthun, wedi colli ei apêl yn erbyn dedfryd gydol-oes yn y carchar.
Yn ystod ei achos y llynedd, fe blediodd Jamie Reynolds yn euog i lofruddio Georgia Williams, 17, o Sir Amwythig.
Clywodd y gwrandawiad y gallai Reynolds fod wedi llofruddio llawer mwy.
Ddydd Iau, fe ddyfarnodd tri barnwr yn yr Llys Apêl nad oedd "unrhyw sail i ddechrau dadlau nad ydw dedfryd gydol-oes yn angenrheidiol."
Ychwanegodd y barnwyr bod y gosb am y llofruddiaeth "arswydus" yn un "haeddiannol".
Perygl i'r cyhoedd
Roedd asesiad seiciatryddol yn ystod ei achos wedi dangos bod gan Reynolds y potensial i lofruddio mwy o bobl, a daeth i'r canlyniad ei fod o berygl i'r cyhoedd.
Pan gafodd ei arestio, cafodd 16,800 o ddelweddau a 72 fideo pornograffig eu darganfod ar ei gyfrifiadur.
Roedd rhain yn cynnwys delweddau o ferched roedd yn eu hadnabod, gyda rhaffau wedi ychwanegu yn ddigidol o gwmpas eu gyddfau.
Disgrifiodd Mr Crigman y llofruddiaeth fel un " sadistig, wedi ei sgriptio ac wedi ei gymell gan weithredau rhywiol."
Dywedodd fod Reynolds wedyn wedi tynnu lluniau o gorff y ferch 17 oed mewn gwahanol leoliadau yn y tŷ.
Dim diddordeb rhamantus
Er bod Georgia Williams yn adnabod y dyn 23 oed, roedd hi wedi dangos yn glir nad oedd ganddi ddiddordeb rhamantus ynddo.
Cafodd delweddau CCTV eu dangos o Jamie Reynolds yn mynd i'r sinema yn Wrecsam ar ei ffordd i gael gwared a chorff Georgia Williams yng nghoedlan Nant-y-Garth.
Cafodd Jamie Reynolds ei arestio yn Glasgow, ddiwrnod ar ôl i Georgia ddiflannu.
Cafodd ei arestio i ddechrau ar amheuaeth o herwgipio ond wedyn gyda'r cyhuddiad o lofruddio pan ddaeth yr heddlu o hyd i'w chorff.
Straeon perthnasol
- 19 Rhagfyr 2013
- 2 Rhagfyr 2013
- 4 Mehefin 2013