Ymgyrch i achub y Parrot yng Nghaerfyrddin

Arwydd y Parrot

Mae 'na ymgyrch ar droed i achub bar cerddoriaeth y Parrot yng Nghaerfyddin.

Fe gaeodd y dafarn ym mis Awst wedi i'r perchnogion gyhoeddi nad oedden nhw'n gallu fforddio ei gadw ar agor.

Nawr, mae grŵp West Wales Music Collective - criw o bobol sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth, bandiau, unawdwyr, hyrwyddwyr cerddoriaeth neu rhai sydd wedi ymwneud a'r Parrot dros y blynyddoedd - am achub y bar a'i ailwampio.

Mae'r grŵp yn ceisio codi £10,000 drwy wefan noddi Crowdfunding.

I'r gymuned

Fe ddywedodd Steffan Storch o Ymgyrch Achub y Parrot mai nid dim ond ail-agor y dafarn yw'r nod, ond "gwneud gwelliant i'r 'stafell, prynu system air-con, system sain, a gwella'r lle yn gyffredinol."

Dyw trafferthion ariannol y cyn-berchnogion ddim yn bryder, yn ôl Steffan: "Y gwahaniaeth yw ein bod ni am ei agor a'i redeg i'r gymuned.

"Ni sy'n rhedeg e fel cymuned, a smo ni moyn tynnu elw mas o'r lle.

"Ni moyn cadw fe fel lle ma' bandiau Cymraeg a bandiau yn gyffredinol yn gallu dod i whare yng Nghaerfyrddin, achos nawr 'sdim lle fel 'na i gael."

Effaith eang

Mae Dewi Snelson, Prif Swyddog Menter Gorllewin Sir Gar, yn croesawu'r ymgyrch: "Ma' canolfannau trefnu gigs yn brin ar draws Cymru, ond yn enwedig mewn ardaloedd fel hyn. Mae hon yn ardal wledig hefyd, ma nifer y canolfannau yn llai fyth.

"Felly ma' rhywle fel hyn yn cau yn cael effaith eithaf eang ar draws yr ardal.

"Mae'n eitha anodd yn yr ardal i ffeindio llefydd pwrpasol, yn enwedig lle fel y Parrot - 'efo system sain wedi ei osod yn barod - ma' hynny'n dod a'r costau lawr, ma'n haws i drefnwyr allu cynnal digwyddiadau.

"Ma' colli canolfan fel hyn yn golygu colli rhywle sydd wedi gwneud ei enw'n barod, rhywle lle ma pobol yn gyfarwydd â mynd iddo i wylio bandiau, mae o'n golled mawr."

Roedd Miriam Elin Jones yn mynychu llawer o gigs yn y dafarn, yn dweud ei bod hi wedi gweld dirywiad ers cau'r Parrot: "Mae e yn drueni mawr. Dwi'n gweld teithiau cerddorol yn cael ei trefnu nawr, yn mynd i Gaerdydd, i Gaernarfon, ond dim byd dod i'r gorllewin o gwbwl. Ma fe'n drueni."