Clod i wylwyr y glannau yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd

Mae gwylwyr y glannau yn Aberystwyth a Borth wedi derbyn clod am eu gwaith yn ystod y llifogydd yn gynharach eleni.
Mae Richard Martin, arweinydd gwylwyr y glannau wedi canmol y criw fel rhan o ymgyrch i ddathlu "pencampwyr y glannau".
Dywedodd: "Byddai'r criw yn dweud mai dim ond gwneud eu gwaith oedden nhw, sy'n dweud mwy amdanyn nhw na fedra'i ei roi mewn geiriau."
Cafodd y criw achub eu galw allan 11 o weithiau rhwng Ionawr a Chwefror.
Cafodd Aberystwyth ei daro gan donnau mewn stormydd a ddinistriodd rannau helaeth o'r promenâd.
Gwyntoedd yn hyrddio
Achosodd glaw, llanw uchel a gwyntoedd cryfion i wylwyr y glannau roi eu hunain mewn perygl i helpu eraill.
Dosbarthodd y criw brydau i bobl oedd yn agored i niwed a'r henoed a rhoddwyd cymorth i bobl wacáu eu cartrefi.
Cafodd clod mawr ei roi i reolwr adran y Cambrian, George Crumpler, oedd yn gweithio wrth i wyntoedd hyrddio Aberystwyth.
Mae'r ymgyrch yn esbonio iddo redeg rhwng tonnau er mwyn achub unigolyn oedd yn llochesu.
Cafodd clod hefyd ei roi i wirfoddolwyr am aberthu amser o'u swyddi llawn amser i estyn llaw.
Meddai Mr Martin: "Mae gwaith unigolion a thimoedd yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl, unai mewn canolfannau cydlynu neu ar yr arfordir."
Straeon perthnasol
- 3 Ionawr 2014
- 3 Ionawr 2014
- 10 Ionawr 2014
- 16 Awst 2014