Damwain Casnewydd: Anafiadau difrifol
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth wedi i gerddwr yn ei 50au ddioddef anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad gyda char yng Nghasnewydd ddydd Llun.
Digwyddodd y gwrthdrawiad am 5:39yh ar Ffordd Aberddawan ar y gyffordd gyda Ffordd Llyswyry.
Rhoddodd y diffoddwyr tân gymorth cyntaf i'r cerddwr cyn i feddyg rhoi triniaeth iddo.
Dywedodd Heddlu Gwent bod y dyn wedi dioddef anafiadau difrifol, gan gael ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Nid yw gyrrwr y car oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad, Vauxhall Astra aur, wedi dioddef unrhyw anafiadau.
Dylai unrhyw un gydag unrhyw wybodaeth ynglŷn â'r digwyddiad alw'r heddlu ar 101.