Cwis BAFTA: Tynnu'r Mwgwd

Cyhoeddwyd
disgrifiad o’r llunMae'r actor yma o Rydaman wedi chwarae rhan y digrifwr Ryan Davies ar lwyfan ac ar sgrin.
disgrifiad o’r llunAled Pugh oedd yr Actor Gorau yn 2010 am ei bortread o Ryan Davies yn 'Ryan a Ronnie'
disgrifiad o’r llunO'r Barri i Bontyberry mae'r actores hon yn gyfarwydd iawn gyda seremoniau BAFTA!
disgrifiad o’r llun'Stella' oedd yn fuddugol am y Ddrama Deledu Orau yn 2013. Mi ennillodd Ruth Jones wobr hefyd am y Sgriptio Gorau
disgrifiad o’r llunOedd y Doctor yma ar amser ar gyfer ei apwyntiad pwysig efo BAFTA Cymru yn 2007?
disgrifiad o’r llunMae 'Doctor Who 'wedi ennill 25 BAFTA Cymru i gyd, gan cynnwys gwobr yr Actor Gorau i David Tennant yn 2007
disgrifiad o’r llunWythwr o'r Wythdegau fu'n gapten ei wlad. Mae e bellach yn sylwebydd a gohebydd uchel ei barch.
disgrifiad o’r llunEddie Butler cafoodd ei goroni'n Sgriptiwr Gorau am raglen ddogfen ar y Llewod 'Lions '71' yn 2012
disgrifiad o’r llunFallai y gallai'r Ditectif Prif Arolygydd Tom Mathias eich helpu i nabod yr actores hon?
disgrifiad o’r llunCafodd Mali Harries ei henwebu ddwy waith am yr Actores Orau yn 2011, gan ennill y wobr am ei rôl yn "The Indian Doctor"
disgrifiad o’r llunBu'n achosi helynt gyda'i frawd yn Abertawe cyn mynd i Efrog Newydd i herio Spiderman
disgrifiad o’r llunRhys Ifans oedd y cyntaf i dderbyn Gwobr Siân Phillips yn 2005
disgrifiad o’r llunMerch i un o'r Brodyr Bach sydd wedi creu argraff fawr ar BAFTA!
disgrifiad o’r llunCafodd Sara Lloyd-Gregory ei choroni yr Actores Orau am ei rôl yng nghyfres ddrama 'Alys' yn 2013
disgrifiad o’r llunOes angen rhagor o waith ditectif i nabod yr actor yma?
disgrifiad o’r llunFe enillodd 'Sherlock 'y wobr am y Ddrama Deledu Orau yn 2012
disgrifiad o’r llunMi roedd hi'n perthyn i gast Torchwood a Merlin ond pwy yw'r actores o Ystradgynlais?
disgrifiad o’r llunYn 2007, fe enillodd Eve Myles y wobr am yr Actores Orau am ei phortread o Gwen Cooper yng nghyfres gyntaf Torchwood.
disgrifiad o’r llunA fydd seremoni BAFTA Cymru yn brif stori ar Newyddion 10?
disgrifiad o’r llunMae Huw Edwards wedi ennill y wobr am y Cyflwynydd Gorau chwe gwaith!
disgrifiad o’r llunRoedd yr actores yma fel y gôg pan enillodd hi wobr yr Actores Orau yn 2010
disgrifiad o’r llunMae Eiry Thomas wedi ennill gwobr yr Actores Orau ddwywaith - yn 2002 am 'The Bench' ac yn 2010 am 'Cwcw'