Noson wobrwyo Bafta Cymru yng Nghaerdydd

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw John
Disgrifiad o’r llun, Y gyflwynwraig Alex Jones yn cyrraedd Canolfan y Mileniwm

Mae seremoni flynyddol BATFA Cymru yn cael chynnal yng Nghaerdydd nos Sul.

Cafodd y noson ei chynnal yng Nghanolfan y Mileniwm ac roedd yna 28 o gatagoriau gwahanol.

Roedd enw un o'r enillwyr wedi ei gyhoeddi cyn dechrau'r noson, sef y newyddiadurwr Jeremy Bowen o'r BBC.

Cafodd Mr Bowen, sy'n enedigol o Gaerdydd ei gyflwyno gyda Gwobr Sian Phillips a hynny am flynyddoedd o waith yn darlledu o ryfeloedd.

Mae uchafbwyntiau seremoni BAFTA Cymru yn cael eu dangos ar S4C am 21:30 nos Sul.

Disgrifiad o’r llun, Yr actores Nerys Hughes yn cyrraedd y seremoni

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol