Scarlets 15-3 Caerlŷr

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Harry Robinson yn croesi ar gyfer cais y Scarlets

Fe wnaeth y Scarlets aildanio eu hymgyrch Ewropeaidd gyda buddugoliaeth yn erbyn Caerlŷr ar Barc y Scarlets.

Manteisiodd yr asgellwr Harry Robinson ar gamgymeriad Miles Benjamin i sgorio'r cais cyntaf. Fe wnaeth Benjamin ollwng y bel yn y 22.

Yn yr ail hanner fe wnaeth y mewnwr Aled Davies rhyng-gipio pas Ben Young ar ôl 61 munud i roi'r Scarlets ymhellach ar y blaen.

Daeth pwyntiau eraill y Scarlets o gic cosb Rhys Priestland, gyda Steve Shingler yn cicio'r un trosgais.

Cic gosb Owen Williams oedd unig bwyntiau'r ymwelwyr.