Cwis BAFTA: Tynnu'r Mwgwd

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun, Mae'r actor yma o Rydaman wedi chwarae rhan y digrifwr Ryan Davies ar lwyfan ac ar sgrin.
Disgrifiad o’r llun, Aled Pugh oedd yr Actor Gorau yn 2010 am ei bortread o Ryan Davies yn 'Ryan a Ronnie'
Disgrifiad o’r llun, O'r Barri i Bontyberry mae'r actores hon yn gyfarwydd iawn gyda seremoniau BAFTA!
Disgrifiad o’r llun, 'Stella' oedd yn fuddugol am y Ddrama Deledu Orau yn 2013. Mi ennillodd Ruth Jones wobr hefyd am y Sgriptio Gorau
Disgrifiad o’r llun, Oedd y Doctor yma ar amser ar gyfer ei apwyntiad pwysig efo BAFTA Cymru yn 2007?
Disgrifiad o’r llun, Mae 'Doctor Who 'wedi ennill 25 BAFTA Cymru i gyd, gan cynnwys gwobr yr Actor Gorau i David Tennant yn 2007
Disgrifiad o’r llun, Wythwr o'r Wythdegau fu'n gapten ei wlad. Mae e bellach yn sylwebydd a gohebydd uchel ei barch.
Disgrifiad o’r llun, Eddie Butler cafoodd ei goroni'n Sgriptiwr Gorau am raglen ddogfen ar y Llewod 'Lions '71' yn 2012
Disgrifiad o’r llun, Fallai y gallai'r Ditectif Prif Arolygydd Tom Mathias eich helpu i nabod yr actores hon?
Disgrifiad o’r llun, Cafodd Mali Harries ei henwebu ddwy waith am yr Actores Orau yn 2011, gan ennill y wobr am ei rôl yn "The Indian Doctor"
Disgrifiad o’r llun, Bu'n achosi helynt gyda'i frawd yn Abertawe cyn mynd i Efrog Newydd i herio Spiderman
Disgrifiad o’r llun, Rhys Ifans oedd y cyntaf i dderbyn Gwobr Siân Phillips yn 2005
Disgrifiad o’r llun, Merch i un o'r Brodyr Bach sydd wedi creu argraff fawr ar BAFTA!
Disgrifiad o’r llun, Cafodd Sara Lloyd-Gregory ei choroni yr Actores Orau am ei rôl yng nghyfres ddrama 'Alys' yn 2013
Disgrifiad o’r llun, Oes angen rhagor o waith ditectif i nabod yr actor yma?
Disgrifiad o’r llun, Fe enillodd 'Sherlock 'y wobr am y Ddrama Deledu Orau yn 2012
Disgrifiad o’r llun, Mi roedd hi'n perthyn i gast Torchwood a Merlin ond pwy yw'r actores o Ystradgynlais?
Disgrifiad o’r llun, Yn 2007, fe enillodd Eve Myles y wobr am yr Actores Orau am ei phortread o Gwen Cooper yng nghyfres gyntaf Torchwood.
Disgrifiad o’r llun, A fydd seremoni BAFTA Cymru yn brif stori ar Newyddion 10?
Disgrifiad o’r llun, Mae Huw Edwards wedi ennill y wobr am y Cyflwynydd Gorau chwe gwaith!
Disgrifiad o’r llun, Roedd yr actores yma fel y gôg pan enillodd hi wobr yr Actores Orau yn 2010
Disgrifiad o’r llun, Mae Eiry Thomas wedi ennill gwobr yr Actores Orau ddwywaith - yn 2002 am 'The Bench' ac yn 2010 am 'Cwcw'