Prif weithredwr: Manylion pecyn diswyddo Penfro
- Cyhoeddwyd

Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi cadarnhau ei bod nhw'n astudio manylion pecyn diswyddo Prif Weithredwr Sir Benfro, Bryn Parry Jones.
Yn y cyfamser, mae un o gynghorwyr y sir wedi cyhoeddi manylion y tâl gafodd Mr Parry Jones ar ei wefan.
Yn ôl yr erthygl ar wefan bersonol y Cynghorydd Jacob Williams, fe fydd Bryn Parry Jones yn derbyn £332,000.
Bydd y prif weithredwr yn gadael ei swydd ar ddiwedd y mis.
Mae'r erthygl ar wefan Jacob Williams yn honni y bydd Mr Parry Jones yn derbyn tâl o dri mis - sef £48,000 - a thaliad diswyddo o dros £226,000.
Fe fydd hefyd yn derbyn bron i £17,000 mewn iawndal - ar ôl i gynghorwyr atal taliadau ariannol i'r prif weithredwr yn lle cyfraniadau pensiwn nôl ym mis Chwefror.
Cafodd y taliadau eu hatal am iddyn nhw gael eu disgrifio fel taliadau anghyfreithlon gan y swyddfa archwilio.
Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi cadarnhau ei bod yn ystyried manylion y pecyn diswyddo, cyn penderfynu a fyddan nhw'n cymryd camau pellach.
Mewn ymateb i'r erthygl ar wefan y Cynghorydd Williams, fe ddywedodd y cynghorydd Jamie Adams, arweinydd Cyngor Penfro, y dylai "pob aelod fod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau o dan y côd ymddygiad."
Straeon perthnasol
- 16 Hydref 2014