Damwain: Gyrrwr mewn cyflwr difrifol

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Alan Bowring
Disgrifiad o’r llun,
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A40 ger Stad Ddiwydiannol Elvicta, Crughywel.

Mae gyrrwr mewn cyflwr difrifol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar ym Mhowys.

Derbyniodd y gyrrwr anafiadau difrifol yn y gwrthdrawiad ar yr A40 ger Stad Ddiwydiannol Elvicta, Crughywel ar ddydd Sul, 19 Hydref am 16:15.

Roedd car Renault Clio glas y dyn 22 oed mewn gwrthdrawiad gyda char Mercedes arian, a chafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Nevill Hall, Y Fenni.

Cludwyd y ddynes oedd yn gyrru'r Mercedes i'r un ysbyty, ond ni chredir bod ei hanafiadau yn ddigon difrifol i fygwth ei bywyd.

Dylai unrhyw un gydag unrhyw wybodaeth alw Heddlu Dyfed-Powys ar 101.