Gwleidyddion San Steffan yn trafod datganoli

San Steffan
Image caption Bydd Mesur Cymru yn gweld pwerau trethu yn symud o San Steffan i Fae Caerdydd.

Mae arweinwyr gwleidyddol Cymru wedi bod yn cwrdd yn San Steffan er mwyn trafod rhoi mwy o ddatganoli i Gymru.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb fod o ac ASau blaenllaw o bleidiau eraill wedi dod i gytundeb i gydweithio ar "gynigion penodol" .

Daw'r drafodaeth am fwy o bwerau yn dilyn refferendwm ar annibyniaeth yr Alban.

Dywedodd Mr Crabb mai'r "prif gyflawniad" oedd cytundeb rhwng y pedair prif blaid i roi eu gwahaniaethau gwleidyddol i'r naill ochr er mwyn "cryfhau a gwella'r" setliad datganoli i Gymru.

Yn ôl Mr Crabb bydd y grŵp yn cwrdd unwaith y mis i drafod " "cynigion penodol, gan ddefnyddio gwaith Comisiwn Silk, ond nid dim ond hynny, er mwyn ceisio datblygu rhai cynigion, fel y medrwn ni ddangos i bobl Cymru cyn yr etholiad cyffredinol nesa' ein bod o ddifri ynghylch cryfhau datganoli a gwneud iddo weithio i bawb."

Dywedodd llefarydd Llafur ar Gymru, Owen Smith: "Roedd hwn yn gyfarfod adeiladol ac roedd yn galondid clywed fod Ysgrifennydd Cymru'n barod i drafod gyda Llafur a'r pleidiau eraill ar sut i symud datganoli 'mlaen yng Nghymru, tra'n cynnal cryfder yr Undeb.

Beirniadu

"Fe wnes i bwysleisio am yr angen i'r llywodraeth sicrhau trefn ariannu deg i Gymru ac rwy'n falch ei fod i weld yn barod i edrych ar y mater

" Rwyf hefyd yn falch fod brwdfrydedd newydd yr Ysgrifennydd Gwladol i weld yn ymestyn i 'bwerau sydd wedi'u cadw'n ôl' a'r egwyddor y dylai pobl Cymru gael yr un cyfle i gael yr un lefel o ddatganoli â'r Alban - os ydyn nhw eisiau."

Ond mae UKIP wedi beirniadu'r cyfarfod.

Dywedodd Nathan Gill, Aelod Seneddol Ewropeaidd UKIP y dylai ei blaid fod yn rhan o'r trafodaethau.

Yn y cyfamser, mae Mesur Cymru - a fyddai'n rhoi pwerau i'r Cynulliad i amrywio trethi - yn parhau ar ei daith drwy'r Senedd.

Mae Mr Crabb yn cynnig newidiadau i'r Mesur, sydd wedi ei gynllunio i roi mwy o hyblygrwydd i dorri neu gynyddu treth incwm yng Nghymru.

Ond yr unig ffordd y gallai'r pwerau yma gael eu datganoli fyddai trwy bleidlais gadarnhaol mewn refferendwm.

Newidiadau i'r Mesur

Yn dilyn tro pedol gan Lywodraeth y DU, mae Mr Crabb wedi cyflwyno newidiadau i'r Mesur, trwy gael gwared ar y rheol 'lockstep' ddadleuol.

Byddai'r 'lockstep' yn atal Llywodraeth Cymru rhag addasu bandiau treth unigol.

Dywedodd rhai beirniaid fod y rheol yn gwneud y pwerau arfaethedig yn anymarferol.

Mae'r Mesur - sydd yn ôl yn Nhŷ'r Arglwyddi - hefyd yn cynnwys datganoli rheolaeth dros y dreth stamp, treth tirlenwi, a rheolaeth lawn o gyfraddau busnes. Ni fyddai'r un ohonynt yn gwarantu refferendwm.

Image caption Bydd Mr Crabb yn croesawu arweinwyr gwleidyddol Cymru i Whitehall ddydd Llun

Fformiwla Barnett

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi dweud na ddylai pwerau treth incwm gael eu datganoli nes y bydd y drefn o ariannu Cymru yn cael ei ddiwygio.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn colli allan o dan y drefn bresennol, sy'n cael ei rheoli gan fformiwla Barnett y Trysorlys.

Ond dywedodd Mr Crabb wrth BBC Cymru y gallai hyblygrwydd o ran treth incwm wneud Cymru'n fwy cystadleuol.

Meddai: "Os yw Llywodraeth Cymru yn penderfynu nad ydyn nhw am ddefnyddio'r pwerau treth incwm, rwy'n meddwl y bydd yna gyfle yn cael ei golli.

"Rydym yn rhoi'r hyblygrwydd a'r pwerau dros dreth incwm iddyn nhw ac mae i fyny iddyn nhw nawr i benderfynu sut y maen nhw am ddefnyddio hynny.

"Ni fyddwn yn rhoi gorchmynion iddyn nhw ar sut y dylen nhw ddefnyddio'r pwerau, ond yn amlwg mae 'na gyfle i'w defnyddio er lles economaidd Cymru gyfan."

Bydd Mr Crabb yn cwrdd â'r pleidiau eraill yn Whitehall.

Image caption Mae Nathan Gill ASE yn siomedig nad yw ei blaid wedi eu gwahodd i'r trafodaethau

'Amddifadu'

Dywedodd Nathan Gill ASE UKIP wrth Cymru Fyw ei fod yn siomedig fod ei blaid wedi cael eu "amddifadu" o'r cyfle i gyfrannu i'r trafodaethau.

"Mae arolygon barn yn dangos ein bod bellach y drydedd blaid fwyaf yng Nghymru, ac os yw'r arolygon barn yn gywir, mae'n edrych yn debygol ein bod yn mynd i wneud yn arbennig o dda yn etholiadau'r Cynulliad yn 2016."

Fe ychwanegodd: "Mae'n bosib yn nhymor nesaf y Cynulliad bydd gan UKIP rhwng pump a naw Aelod Cynulliad."

Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno eu gwelliannau eu hunain i'r Mesur, gyda'r nod o ehangu'r meysydd polisi y mae'r Cynulliad yn gyfrifol amdanyn nhw.