'Dim mwy o arian i Gymru'

Cameron

Mae'r Prif Weinidog David Cameron wedi dweud na fydd Llywodraeth Cymru yn derbyn mwy o arian yn sgil refferendwm yr Alban.

Dywedodd y dylai Carwyn Jones gymryd mantais o bwerau newydd sydd ar y ffordd ac ymrwymo i gynnal refferendwm dros ddatganoli treth incwm.

Mae Mr Jones wastad wedi dadlau ei fod eisiau sicrhau setliad ariannol gwell i Gymru cyn fod y cyfrifoldeb dros godi a gosod treth incwm yn cael ei drosglwyddo i Fae Caerdydd.

Yn ôl Mr Cameron, mae Prif Weinidog Cymru yn gwneud dadl wleidyddol yn hytrach na'r hyn sydd yn iawn i Gymru.

'Materion gwahanol'

Dywedodd Mr Cameron wrth BBC Cymru: "Does dim cynlluniau am newid mawr mewn faint o arian sy'n cael ei roi drwy gyfrwng y fformiwla [Barnett].

"Mae be sy'n digwydd nesa'n ddibynnol ar be mae'r pleidiau eisiau. I mi, fel Ceidwadwr, rwyf eisiau i'r Cynulliad gael y pwerau yma er mwyn gwneud mwy i bobl Cymru.

"Dydw i ddim yn deall y ffordd mae'r Prif Weinidog [Carwyn Jones] yn meddwl, achos siawns ei fod yn gwneud synnwyr i'r Cynulliad, beth bynnag yw lefel y grant mae'n ei gael, fod â'r pŵer i allu codi a gwario mwy o'i arian ei hun?

"Mae'n swnio fel ei fod yn gwneud dadl sy'n eithaf gwleidyddol yn hytrach na meddwl 'mae'r rhain yn faterion gwahanol, beth am i wneud y peth iawn i'r Cymry a chael datganoli' - sef fy safbwynt i."

'Tro-pedol'

Image caption Mi fuodd Carwyn Jones yn yr Alban yn ymgyrchu dros bleidlais Na

Dywedodd llefarydd ar ran Carwyn Jones: "Dyma'n union y math o dro-pedol y buon ni'n rhybuddio yn ei gylch yn dilyn y refferendwm yn yr Alban.

"Mae'r Prif Weinidog wedi dweud ynghynt y byddai'n mynd i'r afael â chyllid teg ac mae e nawr i'w weld yn mynd yn ôl ar hynny.

"Byddai'r hyn mae e'n ei gynnig yn gadael Cymru mewn sefyllfa waeth, ac allwn ni ddim derbyn hynny.

"Rydym yn gwybod ein bod yn cael ein tangyllido £300 miliwn y flwyddyn ac mae'n rhaid mynd i'r afael â hyn heb oedi."

Yn gynharach yn y dydd fe wnaeth llywodraeth y DU gyhoeddi newidiadau i Fesur Cymru er mwyn cael gwared ar y 'lockstep', fyddai'n galluogi Llywodraeth Cymru i amrywio bandiau trethi fesul un.

Ond mi fydd yn rhaid cynnal refferendwm cyn i'r pŵer gael ei ddatganoli, gan fod hynny wedi ei nodi yn y mesur, a wnaiff hyn ddim digwydd nes bod Llywodraeth Cymru'n penderfynu gwneud.

Straeon perthnasol