Marwolaeth babi: heddlu yn ymchwilio
- Cyhoeddwyd
Dywed yr heddlu sy'n ymchwilio i farwolaeth babi dau fis oed o Gei Connah eu bod wedi arestio dyn 22 oed.
Mae'r dyn o Gei Connah yn cael ei holi yng ngorsaf heddlu Llanelwy.
Dywed yr heddlu fod swyddogion iechyd wedi cysylltu â nhw ar ddydd Iau, 2 Hydref, ar ôl i'r babi gael ei gymryd i Ysbyty Duges Caer.
Cafodd y babi ei symud i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl lle bu farw ddydd Sadwrn, 4 Hydref.
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal gan yr heddlu ac asiantaethau eraill, ac fe gafodd archwiliad post mortem ei gynnal.
Dywedodd llefarydd y byddai'n amhriodol i wneud sylw pellach tra bod yr ymchwiliad yn mynd rhagddo.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol