Cynnydd rhent Tre-Gŵyr: Tro pedol
- Cyhoeddwyd

Mae trigolion ar stad o dai yn Abertawe wedi ennill brwydr gyda'r cyngor ynglŷn â chynnydd anferth mewn rhent tir.
Roedd preswylwyr ar stad dai Elba yn Nhre-Gŵyr yn wynebu cynnydd yn eu rhent tir o rhwng £50 a £2,500 y flwyddyn..
Ond yn dilyn protestiadau gan drigolion, mae Cyngor Abertawe wedi gwneud tro pedol, gan gynnig cyfradd llai.
Dywedodd arweinydd y Cyngor, Rob Stewart: "Mae ein cynnig newydd yn dangos ein bod ni wedi gwrando ar bryderon trigolion ac wedi ymateb i hynny."
Ychwanegodd: "Drwy gydol y broses hon mae'r cyngor wedi dilyn y prosesau cywir.
"Byddwn ni nawr yn cynnig swm blynyddol gwahanol sy'n fwy fforddiadwy ar gyfer trigolion ac sy'n diwallu ein hanghenion fel perchennog rhydd-ddaliad y stad."
Yn ogystal cadarnhaodd y cyngor y byddai trigolion a phrydleswyr yn cael y cyfle i brynu rhydd-ddaliad eu cartrefi yn seiliedig ar yr asesiad wedi'i adolygu.
Straeon perthnasol
- 17 Mehefin 2014