Sunderland 0 Abertawe 0
- Cyhoeddwyd

Gary Monk, rheolwr Abertawe
Mae Abertawe wedi ennill pwynt arall oddi cartref - ond roedd hi'n brynhawn anodd i'r Swans.
Yn ôl eu harfer roedd Abertawe yn mwynhau digon o feddiant ond roedd cyfleodd yn brin o flaen y gôl.
Roedd Sunderland yn anlwcus i beidio sgorio ar sawl achlysur - roedd Connor Wickham yn arbennig o siomedig ar ôl iddo wastraffu cyfle gorau'r gêm.
Bu'n rhaid i Abertawe amddiffyn am gyfnodau helaeth yn enwedig ar ol i Angel Rangel yn cael ei ddanfon o'r maes am dacl wael naw munud o'r diwedd.
Perfformiad siomedig - ond pwynt gwerthfawr arall i'r Swans oddi cartref.