Anaf Ken Owens: Methu chwarae am hyd at 12 wythnos

Ken Owens Image copyright Huw Evans picture agency

Mae disgwyl i fachwr Cymru, Ken Owens, fethu gemau rhyngwladol Cymru yn yr hydref oherwydd anaf i'w wddf.

Mae tîm rygbi'r Scarlets wedi cyhoeddi y bydd Owens, sydd wedi ennill 26 cap i Gymru, yn derbyn llawdriniaeth yn gynnar wythnos nesaf gan fethu chwarae rygbi am hyd at 12 wythnos.

Cafodd Owens ei anafu yn ystod sesiwn hyfforddi gyda'r Scarlets.

Mae'r chwaraewr 27 oed wedi bod yn rhan bwysig o gynlluniau hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, ers iddo chwarae ei gêm gyntaf dros ei wlad yng Nghwpan y Byd 2011.

Cychwynnodd y ddau brawf dros yr haf yn erbyn De Affrica ac roedd disgwyl y byddai'n cystadlu gyda Richard Hibbard am y crys rhif dau ym mis Tachwedd, pan fydd Cymru'n wynebu Awstralia, Fiji, Seland Newydd a De Affrica.

'Llawdriniaeth y dewis gorau'

Dywedodd pennaeth perfformiad y Scarlets, Andrew Walker: "Yn anffodus cafodd Ken anaf i'w wddf mewn sesiwn hyfforddi wythnos i ddydd Mawrth diwethaf.

"Yn dilyn archwiliadau manwl, mae'r sgan wedi cadarnhau ei fod wedi anafu disgen yn ei wddf.

"Wedi proses drwyadl, yn cynnwys ymgynghori gyda thri o arbenigwyr gwddf, rydym ni wedi penderfynu mai llawdriniaeth yw'r dewis gorau."

Ychwanegodd prif hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac: "Mae hi'n drueni i Ken ar lefel bersonol a'r tîm yn gyfan gwbl y bydd angen llawdriniaeth ar yr anaf ar ei wddf.

"Roedd Ken wedi bod yn chwarae'n dda, ond rwan rydym ni'n canolbwyntio ar y llawdriniaeth a'i fod yn dychwelyd atom ni i wella."

Straeon perthnasol