Havard ddim am sefyll eto
- Cyhoeddwyd

Dai Havard
Mae Aelod Seneddol Merthyr a Rhymni Dai Havard wedi cyhoeddi na fydd yn ymgeisio yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf.
Cafodd ei ethol yn 2001, ac roedd ganddo fwyafrif o 4,000 yn yr etholiad diwethaf.
Dywedodd ei fod o'r farn fod angen cynrychiolydd newydd o ran y drafodaeth am fwy o newidiadau cyfansoddiadol.
Mewn llythyr at ei etholwyr dywedodd: "Rwy'n teimlo y dylai cynrychiolydd newydd fod yn ymwneud ag unrhyw newidiadau cyfansoddiadol o'r cychwyn cyntaf. "
Straeon perthnasol
- 24 Medi 2014
- 19 Medi 2014
- 4 Gorffennaf 2014