Arestio llanc ar amheuaeth o lofruddio yn y Coed Duon

Heddlu

Mae Heddlu Gwent yn dweud bod bachgen 16 oed o'r Coed Duon wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio.

Bu farw Michael Lee Emmett, 31 ac oedd hefyd o'r dref, ar ôl cael ei drywanu.

Mae'r bachgen wedi ei gadw yn y ddalfa.

Cafodd Mr Emmett, oedd yn dad, ei anafu mewn ymosodiad yn y Coed Duon ar Awst 1.

Bu farw o'i anafiadau ar Fedi 2.