Pôl: Llai am annibyniaeth i Gymru

Y Senedd Image copyright Thinkstock

Mae arolwg barn newydd ar gyfer BBC Cymru yn awgrymu bod cefnogaeth ar gyfer annibyniaeth i Gymru wedi cwympo i'r lefel isaf sydd wedi ei gofnodi erioed.

Dim ond 3% o'r rhai a holwyd ddyddiau wedi i'r Alban bleidleisio 'na' i annibyniaeth oedd eisiau i Gymru fod yn annibynnol.

Ond roedd yna gefnogaeth gref i'r syniad o ddatganoli pwerau ychwanegol i Lywodraeth Cymru, gyda 49% yn cefnogi hynny. Dim ond 12% oedd am weld y Cynulliad yn cael ei ddiddymu.

Etholiad Cyffredinol 2015

Yn ôl yr arolwg roedd yna gefnogaeth gynyddol i Ukip yng nghyd-destun etholiad cyffredinol 2015. Roedd y gefnogaeth i blaid Nigel Farage ar 14%, saith pwynt yn uwch nag arolwg diwethaf BBC Cymru ym mis Mawrth.

Roedd Llafur lawr bedwar pwynt i 38%, gyda'r Ceidwadwyr ar 23% (un pwynt yn is), Plaid Cymru ar 13% (lawr un pwynt) a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar 7% (lawr 2 bwynt).

Dywedodd yr Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd: "Y gefnogaeth i annibyniaeth yw'r isaf rwyf wedi ei weld yn unman.

"Mae yna symudiad clir wedi bod tuag at gefnogi pwerau ychwanegol ac mae rhai o'r bobl a allai fod wedi dweud 'annibyniaeth' wedi symud i'r cyfeiriad hynny.

"Rydyn ni'n agosáu at fwyafrif yn dweud eu bod nhw am i bethau fynd ymhellach. Mae yna lefelau eitha' isel o gefnogaeth i ddiddymu'r Cynulliad hefyd - mae'r safbwyntiau eithafol yn colli allan."

Cefnogaeth Ukip i effeithio ar seddi ymylol?

Mae dadansoddiad o'r ffigyrau bwriadau pleidleisio gan yr Athro Scully'n awgrymu y byddai Llafur yn ennill dwy sedd yn y brifddinas (Gogledd Caerdydd a Chanol Caerdydd) pe bai'r gogwydd yn unffurf ar draws Cymru.

Byddai'r Ceidwadwyr yn colli Gogledd Caerdydd ond yn ennill Brycheiniog a Maesyfed; byddai Plaid Cymru yn cadw eu tair sedd nhw, ond dim ond un sedd - Ceredigion - fyddai gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan.

Mae lefel y gefnogaeth i Ukip yn rhy isel i'r blaid ennill sedd, ond yn ddigon uchel i wneud argraff ar rai etholaethau ymylol.

"Mae'r gefnogaeth i Ukip yn amlwg ar gynnydd," meddai'r Athro Scully.

"Maen nhw'n dechrau cyrraedd y math o lefel ble allen nhw wneud gwahaniaeth difrifol mewn seddau ymylol. Mae'r rhan fwyaf o'r dystiolaeth yn awgrymu eu bod yn cymryd mwy o gefnogaeth gan y Ceidwadwyr nag unrhyw le arall; fe allai hynny fod yn bwysig mewn seddau ymylol fel Bro Morgannwg, Aberconwy - etholaethau y mae 'r ceidwadwyr yn eu cynrychioli ond ddim o fwyafrif enfawr."

Datganoli budd-daliadau

Mae'r pôl hefyd yn awgrymu y byddai mwyafrif pobl Cymru yn hoffi gweld rhai budd-daliadau'n cael eu datganoli (56%) a phlismona hefyd (60%).

Mae yna gefnogaeth hefyd, yn ôl yr arolwg, i Lywodraeth Cymru benderfynu faint o dreth incwm sy'n cael ei dalu yng Nghymru, gyda 46% o blaid y syniad a 37% yn erbyn.

Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi mynnu bod Cymru'n cael ei than-gyllido a bod angen mynd i'r afael â hynny cyn bod pwerau dros dreth incwm yn cael eu datganoli.

Gofynnwyd hefyd a ddylai ASau Cymreig gael eu gwahardd rhag pleidleisio yn San Steffan ar faterion sy'n effeithio ar Loegr yn unig.

Cytunodd 44% ond roedd 41% yn anghytuno - sy'n awgrymu bod yna amrywiaeth barn ar awgrym y Prif Weinidog David Cameron y dylid cyflwyno Pleidleisiau Seisnig ar gyfreithiau Seisnig.

Mae'r economegydd Gerry Holtham wedi dweud wrth raglen Week in Week Out ei fod yn teimlo bod gweinidogion yng Nghaerdydd wedi bod yn gyndyn i groesawu pwerau codi trethi oherwydd "ofn".

Dywedodd: "Ofn, pryder y bydd mwy o'u hincwm yn ddibynnol ar yr economi Gymreig a llai ar y grant bloc o Loegr. Mae'r grant bloc jyst yn dod fewn, does dim rhaid i chi wneud unrhywbeth. Os yw refeniw yn ddibynnol ar yr economi Gymreig a bod honno'n gwegian bydd llai o arian gennych chi ac felly dwy'n meddwl bod yna ychydig o bryder ynghylch hynny, mae hynny'n risg, pam ei chymryd hi?"

A bydd golwg fanylach ar y arolwg barn ar raglenni teledu BBC Cymru Wales nos Fawrth gyda Pawb a'i Farn ar S4C am 21:30 a Week In Week Out ar BBC 1 Wales am 22:35.

Holodd ICM Research sampl ar hap o 1,006 o oedolion 18+ dros y ffôn ar 19eg-22ain Medi 2014. Cynhaliwyd cyfweliadau ar draws Cymru ac mae'r canlyniadau wedi eu pwysoli i broffil yr holl oedolion. Mae ICM yn aelod o'r Cyngor Pôlio Prydeinig ac mae'n cydymffurfio a'i reolau.