Owain Glyndŵr ym Mharis

Lara Catrin efo'r awdur Jasper Rees
Image caption Lara Catrin efo'r awdur Jasper Rees

Mae Lara Catrin sy'n wreiddiol o Fangor bellach yn byw yn Ffrainc. Dros y penwythnos mi fuodd hi'n dathlu Diwrnod Owain Glyndŵr efo Cymdeithas Cymry Paris. Bu'n dweud yr hanes wrth BBC Cymru Fyw:

Pam Paris?

"Pam lai?". Dyna'r ateb mwyaf cyffredin y cewch chi gan unrhywun pan yn clywed y cwestiwn "Pam symud i Baris?". I mi, roedd o'n benderfyniad digymell, heb fawr o resymu tu ôl iddo. Isio dilyn Hemingway i gyfeiliant Serge Gainsbourg efallai, neu efallai bod ein cysylltiad ni'r Cymry yn gryfach na'r disgwyl efo'r Ffrancwyr.

Chwe chan mlynedd yn ôl, fe anfonodd Owain Glyndŵr lythyr at Siarl IV, Brenin Ffrainc ar y pryd, yn gofyn am help y Ffrancwyr mewn brwydr yn erbyn Lloegr. Fe ddaeth 1405 yn "Flwyddyn y Ffrancwyr" yng Nghymru pan gafodd cytundeb ei arwyddo a fyddai'n sicrhau help Ffrainc yn y frwydr i ail-feddiannu ein tir o ddwylo'r Saeson. Dyw hi ddim yn syndod felly bod hyd yn oed Paris yn dathlu dydd Owain Glyndŵr ar Fedi'r 16eg.

Image copyright ARALL
Image caption Owain Glyndŵr, ffrind y Ffrancwyr

'Swreal'

Roeddwn i wedi bod yn byw yn Ffrainc ers rhyw 5 mis, ac ar ddydd Owain Glyndŵr llynedd mi ges i un o'r profiadau mwyaf swreal ers i mi fod yma.

Wrth i mi gerdded o'm fflat tuag at y tŵr Eiffel, fewn drwy ddrysau cul caffi La Terasse, ymysg y pastis a'r aperos, a'r wynebau anghyfarwydd, roedd clywed y geiriau "ty'd â peint i fi" yn chydig o sioc. Roedd Cymdeithas Cymry Paris yn cynnal noson swper Owain Glyndŵr, a byth ers hynny mae digwyddiadau'r Gymdeithas wedi dod yn ganolbwynt fy nyddiadur.

Yn amlach na pheidio, yn nhafarn yr Auld Alliance yn y Marais y ffeindwich chi ni - Cymry Paris, yn gwylio gemau rygbi, pêl-droed (os ydy hi'n edrych yn addawol arnom) neu yn cael nosweithiau "siarad Cymraeg". Mae hi'n gymdeithas hynod weithgar, o nosweithiau wisgi Penderyn, teithiau cerdded, ac yn fwyaf diweddar mi gawson ni ein twrnament boules blynyddol. Felly, braint eto eleni oedd cael mynychu swper Glyndŵr.

Steddfod yn Montmartre?

Fel y disgwyl yn Ffrainc, roedd y vin rouge yn llifo, ond y sgyrsiau yn bendant yn Gymreig. Mi gawsom ambell ffrwydriad o 'Calon Lân', ambell ddatgeliad fod nain rhywun yn byw lawr lôn oddi wrth anti rhywun arall, ac ambell ddadl ddwys am ddyfodol Cymru ers i'r Alban ddweud "Na". Sgyrsiau fyddai'n fwy cyffredin ar faes yr Eisteddfod, yn hytrach nac ar gyrion Montmartre.

Mae hi'n anodd dweud faint yn union o Gymry sydd ymysg y Parisiennes. Grŵp oddeutu 40 ohonom oedd ym mar Fleurie nos Sadwrn i swper Glyndŵr, ac ymysg rheiny 7 Gog, a'r gweddill yn Hwntws, (mi ro'n i'n teimlo ychydig bach allan ohoni!). Un o'r hwntws hefyd oedd ein gŵr gwadd - Jasper Rees.

Image caption Jasper Rees yn annerch Cymdeithas Cymry Paris

Darganfod Cymreictod

Ar glawr ei lyfr, 'Bred of Heaven' mae'r linell One man's quest to reclaim his Welsh roots a dyna'n union a wnaeth Rees. Dim ond ei gyndeidiau a'i gyfenw oedd yn awgrymu ei Gymreictod, ond wrth iddo ddyfynu rhannau o'i lyfr, mi ddaeth hi'n amlwg fod Rees wir wedi dod o hyd i rywbeth arbennig iawn yn ei enw a'i hynafiad. Mi ddysgodd Gymraeg a chystadlu fel dysgwr y flwyddyn; mi wnaeth o ddarganfod canu corawl, chwarae rygbi a defaid; ond yn bennaf oll, mi ddarganfyddodd ei Gymreictod.

Er mod i wedi dewis dianc o Gymru (am gyfnod o leiaf), ac er mod i eisiau profi diwylliant ac iaith wahanol, wnes i erioed ddychmygu y byddai dod yn rhan o Gymdeithas Cymry Paris wedi bod mor bwysig i mi. Mae gen i ffrindiau o bob cwr o'r byd ers symud yma, ond y ffrindiau o'r Gymdeithas yw'r rhai fydd yn aros yn rhestr contacts fy ffôn am byth... You can take the girl out of Wales...

Gallwch ddarllen rhagor am argraffiadau Lara o'i bywyd newydd ym Mharis ar ei blog Larking in the Lights.

Image caption Noson i'w chofio i Lara a'i chyfeillion newydd ym Mharis