Damwain beic modur: heddlu'n apelio

Mae heddlu sy'n ymchwilio i farwolaeth beiciwr modur 19 oed fu farw mewn gwrthdrawiad â char 4x4 yn oriau mân bore Sul yn apelio am dystion.

Roedd Ben Calveley yn dod o ardal Carmel yn Llanerchymedd, Ynys Môn.

Bu farw Mr Calveley - oedd yn gyrru beic modur Suzuki glas - yn y fan a'r lle yn dilyn y ddamwain ar y B5109 rhwng Bodffordd a Llynfaes oddeutu 01:00.

Chafodd neb yn y car eu hanafu.

Straeon perthnasol