Joost Luiten yn ennill Pencampwriaeth Agored Cymru
- Cyhoeddwyd

Ar ddiwrnod olaf Pencampwriaeth Agored Cymru yng Nghasnewydd roedd siom i'r Cymry wrth i Joost Luiten ennill y gystadleuaeth.
Llwyddodd Luiten o'r Iseldiroedd i ennill Pencampwriaeth Agored Cymru yn y Celtic Manor, Casnewydd, er gwaethaf colli ei fantais ar gychwyn y diwrnod olaf a bod yn un o bedwar oedd ar y blaen ar un adeg yn ystod y dydd.
Ond gwnaeth Luiten ddigon i orffen ar 14 ergyd yn well na'r safon, un ergyd o flaen y cystadleuwyr agosaf - Tommy Fleetwood o Loegr a Shane Lowry o'r Iwerddon.
Dywedodd Luiten: "Roedd hi'n anodd iawn, roedd yn rhaid i mi weithio'n galed at y diwedd un.
"Chefais i ddim y dechrau roeddwn i eisiau ei gael. Roeddwn i'n gwybod ei bod hi am fod yn ddiwrnod anodd ac roedd yn rhaid i mi geisio dal gafael tan y diwedd."
Siom i'r Cymry
Er iddo chwarae'n dda drwy gydol y gystadleuaeth, a bod yn agos at y brig drwy'r diwrnod olaf, gorffennodd Jamie Donaldson 12 ergyd yn well na'r safon, a hynny yn ei roi'n gydradd bedwerydd.
Roedd perfformiadau'r ddau Gymro arall yn fwy siomedig gyda Phillip Price yn gorffen pum ergyd yn well na'r safon ac yn gydradd 32ain, a Bradley Dredge yn gydradd 41ain, a hynny gyda sgôr o dair ergyd yn well na'r safon.
Straeon perthnasol
- 20 Medi 2014
- 19 Medi 2014
- 18 Medi 2014