Gyrrwr beic modur wedi marw ar Ynys Môn

Car heddlu

Mae gyrrwr beic modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar Ynys Môn yn ystod oriau man bore Sul.

Roedd y dyn yn 19 mlwydd oed.

Bu farw wedi i feic modur Suzuki glas daro yn erbyn car Nissan Navara du ar y ffordd rhwng Bodffordd a Llynfaes am 01:00.

Mae'r heddlu wedi cychwyn ymchwiliad i'r digwyddiad.

Maen nhw'n gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.