Abertawe 0-1 Southampton

cerdyn coch Bony Image copyright Getty Images
Image caption Cerdyn coch Wilfried Bony oedd trobwynt y gêm

Abertawe 0-1 Southampton

Wedi i ddechrau perffaith yr Elyrch i'r tymor ddod i ben gyda'r golled i Chelsea y penwythnos diwethaf, roedd hi'n ymddangos eu bod nhw yn ôl mewn hwyliau da yn yr hanner cyntaf yn erbyn Southampton.

Er i'r ymwelwyr gael cyfle cynnar, roedd Abertawe'n rheoli am weddill yr hanner gyda Gulfi Sigurdsson a Wayne Routledge yn mynd yn agos - fe darodd Routledge y trawst.

Ond fe ddaeth dau eiliad o wiriondeb i newid y gêm - roedd Wilfried Bony eisoes wedi gweld cerdyn melyn am dacl fler as Jose Fonte pan aeth i mewn gyda thacl waeth ar Yoshida. Doedd gan y dyfarnwr ddim dewis ond dangos ail gerdyn melyn ac un coch i Bony.

Roedd Abertawe felly lawr i ddeg dyn wedi 39 munud, ac yn wynebu talcen caled i gipio triphwynt arall.

Wrth reswm roedd yr ail hanner yn gwbl wahanol gyda Southampton yn creu'r cyfleoedd i gyd. Er hynny fe lwyddodd amddiffyn yr Elyrch i aros yn gadarn... tan ddeng munud cyn ddiwedd y gêm.

Dyna pryd y llwyddodd Victor Wanyama greu lle yn y cwrt cyn tanio ergyd i'r rhwyd i dorri calonau'r cefnogwyr cartref.

Er gwaetha pob ymdrech, doedd dim ffordd yn ôl i'r gêm i dîm Garry Monk, ac mae Abertawe wedi colli dwy yn olynol i ddifetha'r dechrau da.