Yr Alban yn dweud 'Na' i Annibyniaeth
- Cyhoeddwyd

Mae'r Alban wedi pleidleisio yn erbyn annibyniaeth ac i aros yn rhan o'r Deyrnas Unedig.
Er i'r ymgyrch 'Ie' ennill mwyafrif mewn rhai ardaloedd - gan gynnwys dinas fwya'r Alban, Glasgow - fe fethon nhw sicrhau lefelau digonol o gefnogaeth.
Mae disgwyl y bydd y ffigyrau terfynol yn dangos bod 85% o etholwyr yr Alban wedi bwrw pleidlais.
Mewn araith wedi'r canlyniad, fe ddywedodd Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond fod "yr Alban wedi dewis, ar y pwynt yma, i beidio bod yn wlad annibynnol.
"Dw i'n derbyn penderfyniad y bobl, a dw i'n galw ar weddill yr Alban i 'nilyn i, a derbyn penderfyniad democrataidd pobl yr Alban.
"Dw i'n meddwl y bydd pawb yn yr ymgyrch yma yn credu bod 1.6m yn nifer sylweddol o bleidleisiau o blaid annibyniaeth i'r Alban a dyfodol y wlad 'ma.
"Dw i am ddweud rhywbeth y byddaf yn gobeithio fydd yn uno pob ymgyrch a phob Albanwr. Dw i'n meddwl fod y broses yn adlewyrchu'n dda iawn ar yr Alban. Mae 'na 86% wedi pledleisio. Dyma'r nifer fwyaf mewn etholiad neu refferendwm, erioed.
"Dyma fuddugoliaeth i'r broses ddemocratiaeth.
"Mae'r penderfyniad i adael i bobl ifanc 16 a 17 oed i bleidleisio wedi bod yn llwyddiant ysgubol."
Fe ddywedodd ei ddirprwy Nicola Sturgeon fod 'na "deimlad gwirioneddol o siom ein bod ni wedi cwympo fymryn yn brin" o fuddugoliaeth.
'Siom bersonol'
Dywedodd Ms Sturgeon fod y canlyniad yn "siom bersonol a gwleidyddol", ond fod y wlad "wedi newid am byth".
Roedd hi'n fodlon gweithio gydag "unrhyw un, mewn unrhyw ffordd" i sicrhau mwy o bwerau i'r Alban, meddai.
A beth am Gymru? Mae Carwyn Jones wedi trydar, gan ddweud ei fod "yn falch bod pobl Yr Alban wedi pleidleisio i aros yn y Deyrnas Unedig - gyda'n gilydd fe luniwn dyfodol cyfansoddiadol newydd."
Mae o hefyd yn dweud y bydd yn cynnal cynhadledd i'r wasg am 11 y bore 'ma.
Newidiadau cyfansoddiadol
Mewn araith y tu allan i 10 Downing Street, fe ddywedodd David Cameron ei bod hi'n amser i'r "Deyrnas Unedig ddod at ei gilydd, a symud ymlaen.
"Rhan anatod o hynny fydd setliad cytbwys - sy'n dêg i bobl yr Alban, yn ogystal â phobl Lleogr, Cymru a Gogledd Iwerddon.
"Mae'n deg y dylai setliad newydd, teg i'r Alban arwain at setliad newydd, teg i holl rannau'r Deyrnas Unedig.
"Yng Nghymru, mae 'na gynnig i roi rhagor o bwerau i lywodraeth Cymru a'r Cynulliad.
"Dw i am i Gymru fod yn ganolbwynt i'r drafodaeth ar wneud ein Teyrnas Unedig ni weithio i'n holl genhedloedd."
Ychwanegodd Mr Cameron fod y refferendwm wedi "deffro awch gref. Mae wedi trydaneiddio gwleidyddiaeth yn yr Alban, a chipio dychymyg pobl ledled y DU.
"Fe fydd yn cael ei gofio fel gwers bwerus am gryfder a phwysigrwydd ein democratiaeth hynafol.
"Fe gofrestrodd a phleidleisodd y nifer fwyaf, erioed.
"Fe allwn ni i gyd fod yn falch o hynny."
Yn gynharach dywedodd Michael Gove, prif chwip llywodraeth Prydain: "Mae angen hefyd, ar frys, sicrhau bod lleisiau pobl mewn rhannau eraill o'r DU, Gogledd Iwerddon, Cymru a Lloegr yn cael eu clywed yn fwy clir, a gyda mwy o barch nag erioed o'r blaen," meddai.
"Mae San Steffan angen newid, dyna un o negeseuon yr ymgyrch, a gwleidyddiaeth dros y blynyddoedd diwethaf, a dwi'n meddwl bod bodlonrwydd, gan y Prif Weinidog a'r Llywodraeth, i sicrhau bod newid yn gallu digwydd yn sydyn."
Dadansoddiad: Tomos Livingstone, gohebydd gwleidyddol BBC Cymru
Mae'r Alban wedi pleidleisio i aros yn y Deyrnas Unedig - ond nid dyna ddiwedd y gân.
Mae gwleidyddion rif y gwlith wedi bod yn mynnu na fydd pethau byth yr un fath, ac mae rheswm da am hynny.
Yn yr Alban, mae gwaith i'w wneud i gymodi wedi clwyfau'r ddwy ymgyrch. Fydd hyn ddim yn hawdd wedi i'r wlad - ar y cyfan - ddweud 'Na', a'r ddinas fwya' - Glasgow - ddweud 'Ie'.
Ond mae'r sylw'n dechrau troi at oblygiadau'r canlyniad i weddill y DU.
Byddai creu "cyfreithiau Lloegr ar gyfer materion Lloegr" yn golygu rhwystro ASau o Gymru rhag pleidleisio ar ambell bwnc yn San Steffan. Ond mae datrys beth yn union sydd wedi, neu heb ei ddatganoli yn anos na'r disgwyl. Mae ambell i ddadl wedi cyrraedd y Goruchaf Lys yn barod.
Mae 'na ragor o awgrym wedi bod dros nos y bydd 'na newidiadau i Fesur Cymru cyn iddo ddod i rym, er mwyn codi rhwystrau ar y pwerau treth sy'n cael eu cynnig i lywodraeth Cymru.
A beth am yr arian? Ydy'r refferendwm yn yr Alban wedi agor y drws i greu system newydd i gyllido llywodraeth Cymru yn lle fformiwla Barnett?
Mae 'na ddigon i'w drafod - ond dyw'r cynllun yn bell o fod yn bendant, eto.