Cwpan y Byd: Edrych ymlaen ac yn ôl
Cennydd Davies
Chwaraeon BBC Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae 'na bosibilrwydd ymhen blwyddyn pan fydd tîm rygbi Cymru'n dechrau ymgyrch Cwpan Rygbi'r Byd y byddan nhw'n edrych nol ar un digwyddiad penodol yn ystod cyfres yr hydref yn 2012.
Doedd cais Kurtley Beale yn y funud olaf i Awstralia yn y flwyddyn honno ar y pryd ond yn golygu siom a thorcalon unwaith eto yn erbyn un o dri mawr hemisffer y de ond rodd 'na oblygiadau pellach.
Gan i Gymru ddisgyn yn is nag wyth uchaf rhestr detholion y byd mae'r tîm cenedlaethol mewn grŵp anoddach o lawer yn cynnwys y Wallabies , Lloegr , Fiji a thîm arall sydd eto i'w benderfynu.
Bydd camu mlan o'r grŵp felly'n dasg ynddo'i hun.
Mor agos ond eto mor bell, dyna oedd hanes y gystadleuaeth yn Seland Newydd tair blynedd yn ôl wrth i dîm Warren Gatland ddod o fewn trwch blewyn i gyrraedd y rownd derfynol.
Yn anffodus dyma'r freuddwyd yn chwalu'n deilchion wedi gem ddadleuol yn erbyn y Ffrancwyr yn Auckland.
Roedd llwyddiant y tîm cenedlaethol yn 2011 rhywfaint yn annisgwyl , yr hyn oedd yn allweddol oedd y cyfnod dreuliodd y garfan gyda'i gilydd.
Gwlad Pwyl oedd y cyrchfan ymarfer bryd hynny, yr haf nesa bydd y garfan yn teithio i'r Swistir a Qatar yn y Dwyrain pell er mwyn paratoi a sicrhau y byddan nhw'n fwy na pharod pan ddaw'r gystadleuaeth.
Hefyd mae'r garfan yn dueddol o ffynnu wrth dreulio cyfnod helaeth gilydd.
Roedd ymgyrch 2011 yn sail i'r hyn ddigwyddodd yn y blynyddoedd canlynol wrth i'r tîm cenedlaethol gipio'r gamp lawn yn 2012 a'r bencampwriaeth flwyddyn wedi hynny, gyda'r rhan fwyaf yn disgleirio dros y Llewod yn Awstralia.
O ystyried hynny felly roedd yna deimlad o dangyflawni ym mhencampwriaeth y chwe gwlad eleni.
Y gobaith yw mai'r Cymru berfformiodd gystal yn yr ail brawf yn Ne Affrica y byddwn ni'n gweld dros y flwyddyn nesa yn hytrach na thîm anghyson y chwe gwlad.
Mae Cwpan y Byd ar y gorwel a thymor hynod brysur ac allweddol wedi dechrau.