Tranmere 0-0 Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Di-sgôr oedd hi rhwng Tranmere a Chasnewydd, gyda phwynt yn golygu fod Casnewydd yn aros yn safle 17 yn yr Ail Adran.
Y gôl-geidwad Joe Day, sydd ar fenthyg o Peterborough, oedd arwr y tîm o Gymru.
Tranmere oedd yn bygwth drwy gydol y gem.
Ond bu'n rhaid i Owain Fon Williams, gôl-geidwad Tranmere, fod ar ei orau i rwystro ergyd Chris Zebroski ar ôl 27 munud.