Trafod Cymru wedi pleidlais yr Alban
- Cyhoeddwyd

Mae gwleidyddion blaenllaw Cymru wedi bod yn trafod sut y dylai Cymru symud yn ei blaen yn dilyn refferendwm annibyniaeth yr Alban.
Cafodd y drafodaeth ei threfnu gan raglen The Wales Report ar BBC Cymru, ac fe ddaeth â Leighton Andrews (Llafur) ynghyd ag arweinwyr y pleidiau eraill yn y Cynulliad - Andrew RT Davies (Ceidwadwyr), Leanne Wood (Plaid Cymru) a Kirsty Williams (Dem.Rhydd) - at ei gilydd.
Wrth ymdrin â'r cwestiwn o ddatganoli mwy o bwerau i Fae Caerdydd wedi'r bleidlais yn yr Alban ddydd Iau, dywedodd Mr Andrews fod ei blaid am weld "ariannu tecach i Gymru" a bod "newidiadau ar droed". Dywedodd fod "pobl Cymru yn hoffi datganoli, ac am ei weld yn tyfu".
Dywedodd Kirsty Williams bod hwn "yn gyfle gwych i gael pwerau ychwanegol i Gymru", a'i bod yn fater o'r pleidiau Cymreig yn dod at ei gilydd a "siarad gydag un llais".
Yn ôl Andrew RT Davies: "Dydw i ddim yn credu y dylai cyfrifoldebau gael eu trosglwyddo er mwyn gwneud hynny, a dim ond lle byddai hynny'n gwella bywydau pobl."
Er bod prif bleidiau San Steffan wedi addo mwy o bwerau i'r Alban os fydd annibyniaeth yn cael ei wrthod, dywedodd Leanne Wood: "Dydw i ddim wedi f'argyhoeddi y bydd pwerau ychwanegol yn cael eu rhoi i'r Alban nac i Gymru." Ar hyn o bryd, meddai, mae grym wedi ei ganoli yn ne-ddwyrain Lloegr.
Wrth ateb hynny dywedodd Leighton Andrews bod "biliynau yn dod i Gymru drwy gefnogaeth budd-dal...rydym mewn undeb lle'r ydym yn rhannu, a'r hyn sydd rhaid ei wneud nawr yw cael fformiwla gyllido tecach i Gymru".