Llofruddiaeth: Mwy o amser i holi dyn

Karen Catherall Image copyright via Facebook
Image caption Mae'r heddlu yn holi dyn ar amheuaeth o lofruddio Karen Catherall

Mae dyn 47 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dynes 45 oed yng Ngwernaffield, Yr Wyddgrug.

Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad yn High Park ar ôl cais gan y Gwasanaeth Ambiwlans am 3.34am ddydd Sul.

Roedd Karen Catherall yn fam i ddau.

Mae'r dyn gafodd ei arestio yn byw yn lleol, ac mae'r heddlu wedi cael caniatad i'w holi am 36 awr ychwanegol.

Dywedodd y ditectif arolygydd Mark Hughes: "Mae ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal ac rydym yn cefnogi teulu'r ddynes.

"Rydym yn apelio am unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth a all fod o gymorth i roi galwad ar 101."

Yn y cyfamser fe gafodd cwest i farwolaeth Mrs Catherall ei agor o'i ohirio yn Rhuthun gan grwner Dwyrain a Chanol Gogledd Cymru John Gittins.

Clywodd y cwest mai achos marwolaeth Mrs Catherall ar hyn o bryd oedd anaf difrifol i'w phen a mygu, yn ôl archwiliad post mortem.

Gohiriwyd y cwest tan ddyddiad i'w bennu.