Albert Owen
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Annibyniaeth yn 'ormod o risg'

13 Medi 2014 Diweddarwyd 19:18 BST

Mae AS Llafur Ynys Môn Albert Owen wedi dweud wrth Newyddion 9 ei fod yn credu bod annibyniaeth yn "ormod o risg" i'r Alban.

Dywedodd ei fod yn gredwr mawr mewn datganoli a'i fod eisiau gweld mwy o hynny, ond bod annibyniaeth yn "gam rhy bell".

Daeth ei sylwadau ar yr un dydd â chafodd rali o blaid yr ymgyrch Ie ei chynnal yng Nghaerdydd.

Roedd cannoedd o ymgyrchwyr yno i wrando ar wleidyddion fel Leanne Wood yn dangos eu cefnogaeth i ymgyrch Yes Scotland.