Gwyddonwyr yn dod o hyd i weddillion llong o Gymru?

The ships HMS Erebus and HMS Terror Image copyright Getty Images
Image caption Ymddangosodd y darlun yma o HMS Erebus a HMS Terror yn y Times cyn iddynt ddechrau ar eu taith

Mae'n bosib fod gwyddonwyr o Ganada wedi dod o hyd i weddillion llong gafodd ei hadeiladu yn Noc Penfro yn 1826, ar waelod yr Arctig.

Roedd HMS Erebus yn un o ddwy long aeth i drafferthion oddi ar arfordir tir mawr Canada yn 1845.

Roedd y llong ynghyd a HMS Terror yn rhan o fordaith yr anturiaethwr Sir John Franklin i geisio darganfod llwybr o'r Arctig i'r Môr Tawel.

Ond fe aeth HMS Erebus a HMS Terror yn sownd mewn ia trwchus oddi ar Ynys King William. Bu farw holl aelodau criw'r ddwy long er iddynt geisio dianc ar slediau.

Mae timau wedi bod yn chwilio am y llongau ers blynyddoedd, ond heb lwyddiant, er iddynt ddod o hyd i rai o'r cyrff ac i offer.

Nawr diolch i offer sonar mae tîm o wyddonwyr o Ganada wedi dod o hyd i'r Erebus, neu i'r HMS Terror.

Dociau brenhinol

Cafodd yr Erebus, llong bren oedd yn pwyso 375 tunnell, ei hadeiladu yn Noc Penfro, un o 263 o longau i'w hadeiladu yno.

Hwn oedd yr unig ddociau brenhinol yng Nghymru, gan adeiladu sawl llong ar gyfer y teulu brenhinol yn ogystal â llongau eraill.

Dywedodd John Evans o Ganolfan Treftadaeth Doc Penfro, i'r Erebus gael ei adeiladu yn wreiddiol fel llong rhyfel.

"Ond ar ôl ychydig flynyddoedd o wasanaethu yn Môr y Canoldir, gwnaed penderfyniad i newid ei swyddogaethau," ychwanegodd.

"Cafodd ei hailwampio a'i hanfon ar gyfer mordeithiau i'r Arctig a'r Antarctig.

Image copyright Parks Canada
Image caption Delwedd sonar o'r llong ar waelod y môr

"Dwi ddim yn siŵr faint o fanylion mae sonar y gwyddonwyr yn ei roi, ond pe bai nhw'n gallu cael llun digon agos, fe fyddai'r ddwy long yn edrych yn tra gwahanol," meddai.

Fe wnaeth diddordeb diweddar yn ffawd Franklin a'i griw ailddechrau ar ddechrau'r 80au, ar ôl i archwiliadau fforensig ddangos bod rhai wedi troi at ganibaliaeth mewn ymdrech i oroesi.

Fe wnaeth rhai o'r criw lwyddo i gyrraedd tir mawr Canada, ond roedd hynny dal yn gannoedd o filltiroedd o unrhyw wareiddiad.

Credir bod holl aelodau'r criw wedi marw erbyn 1848. Am y tro mae llywodraeth Canada yn cadw union leoliad y darganfyddiad yn gyfrinach.

Ond yn ôl Mr Evans mae amseru'r newyddion yn berffaith:

"Mae eleni yn nodi 200 mlynedd ers agor y dociau brenhinol yn Noc Penfro, felly mae'n gyd-ddigwyddiad hapus ac anhygoel eu bod wedi darganfod rhywbeth nawr."