Agor cwest i farwolaeth dyn ifanc yng Ngwlad Thai
- Cyhoeddwyd

Bu farw Jack Davies ym mis Awst yng Ngwlad Thai
Mae cwest wedi ei agor i farwolaeth dyn ifanc o Sir Gaerfyrddin yng Ngwlad Thai.
Roedd Jack Davies, 21, wedi bod yn teithio yn y wlad ers tair blynedd pan fu farw yn Ko Phi Phi, ger Phuket, ar Awst 24.
Cafodd y cwest ei agor ddydd Iau gan grwner Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.
Mewn datganiad i'r Llanelli Star ym mis Awst, rhoddodd rhieni Jack deyrnged i'w mab.
Dywedodd Christine a Jonathan Davies: "Roedd yn fachgen hyfryd ac roedd pawb yn ei garu e."
Straeon perthnasol
- 27 Awst 2014