Y refferendwm: Be am Gymru?

Alban a Chymru

Be fydd yn digwydd i Gymru ar ôl refferendwm yr Alban?

Mae hwn yn gwestiwn sydd bellach ar wefusau cenedl gyfan yn dilyn arolygon barn sy'n awgrymu bod posibiliad go iawn y bydd yr Alban yn pleidleisio dros adael y Deyrnas Unedig.

Ddydd Iau yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd bu trafodaeth ar beth fydd goblygiadau'r canlyniad - boed o'n Ie neu Na - mewn digwyddiad oedd wedi cael ei drefnu gan y Sefydliad Materion Cymreig.

Yn ôl Golygydd Materion Cymreig y BBC Vaughan Roderick mae'r peth pwysicaf o ran yr ymgyrchu eisoes wedi digwydd sef bod pleidlais o blaid yn bosibilrwydd real.

Sut y cyrhaeddon ni'r fan hyn?

Image caption Mae'n eithriadol fod yr ymgyrch Ie yn dal ei thir yn erbyn Better Together, yn ôl yr Athro Scully

Ond cyn mynd ati i esbonio arwyddocâd hynny, mae werth gofyn y cwestiwn: sut ydyn ni wedi cyrraedd sefyllfa o'r fath yn y lle cynta'?

Yn y sesiwn agoriadol fe esboniodd yr arbenigwr ar arolygon barn, yr Athro Roger Scully, pam mai ras unochrog ddylai hon fod wedi bod o'r dechrau.

"Mi ddylai'r ymgyrch Na fod yn ennill yn hawdd," meddai.

Rhoddodd dri rheswm am hyn:

1. Mae llawer mwy o sefydliadau yn rhan o'r ymgyrch Na, ac mae rhai o'r sefydliadau yma yn rhai pwerus ar y naw;

2. Fe ddechreuodd yr ochr Na â mantais anferth yn yr arolygon barn: dros 60% o'i gymharu â dan 40% i'r ochr Ie;

3. Mae ymchwil academaidd yn dangos fod tuedd gref iawn tuag at y status quo mewn refferenda cyfansoddiadol.

Ond mae ymgyrch Yes Scotland ar lawr gwlad wedi bod "mor, mor gryf" fel eu bod bellach wedi troi breuddwyd yr SNP yn fygythiad marwol i ddyfodol y Deyrnas Unedig fel y mae hi ar hyn o bryd.

Mi fydd hyn, yn ôl Vaughan Roderick, yn "newid yr holl hinsawdd wleidyddol o ran newid cyfansoddiadol".

'Tymor agored'

Image caption Dyw cynhadledd Carwyn Jones ddim am ddigwydd, yn ôl Gerry Holtham

Fe allai hi fod yn "dymor agored" gyda phob math o newidiadau yn cael eu gwneud i bwerau'r Alban - ac efallai Cymru a Gogledd Iwerddon hefyd.

Dywedodd Vaughan Roderick: "O ran y cyfansoddiad mi allwn ni symud tuag at be sy'n un o'r cyfnodau mwyaf diddorol, o'n i am ddweud o fewn cof ond mae'n mynd yn bellach na'r cof, ac mae hynny oherwydd be sy' wedi digwydd yn barod yn hytrach na be sy'n mynd i ddigwydd."

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi bod yn galw am gynhadledd gyfansoddiadol ers peth amser - felly ai dyma fyddai'r ffordd orau i benderfynu ar y ffordd ymlaen wedi'r refferendwm, boed y bleidlais yn Ie neu Na?

Does dim pwrpas hyd yn oed ystyried y peth, yn ôl yr economegydd Gerry Holtham, oherwydd mae'r siawns o gael cynhadledd yn sero.

Dyma sut fyddai Prif Weinidog Prydain yn ymateb i'r syniad, yng ngeiriau Mr Holtham:

"Pam ddiawl fod raid i mi wneud hynny? A beth fyddwn i yn ei gael allan o'r peth?

"Wel efallai y byddan ni'n cael cyfansoddiad prydferth - a faint o bleidleisiau sydd yn hynny? Rhyw 2,000 o ddeallusion, 500 o academyddion a dyna ni!

"Cer o 'ma, jest cer o 'ma a tyrd yn ôl pan alli di siarad synnwyr!'"

Dyw Cymru ddim hyd yn oed yn gwybod be mae hi eisiau, meddai Mr Holtham, sydd ddim yn helpu'r mater.

Roedd hyn yn rhywbeth gafodd ei bwysleisio gan golofnydd y Guardian Simon Jenkins.

Dyma oedd ei gyngor i wleidyddion Bae Caerdydd: "Peidiwch â disgwyl i gael caniatâd am gynhadledd gyfansoddiadol. Jest trefnwch un ac yna cyflwynwch yr hyn rydych chi eisiau i San Steffan ac, o dan yr amgylchiadau presennol, efallai y cewch chi'ch ffordd."

Pleidlais Ie: Be fyddai'n digwydd?

Image caption Paul Silk yn cyflwyno rhan gyntaf adroddiad y comisiwn roedd yn ei gadeirio

Mi fyddai'r broses yn dilyn buddugoliaeth i Yes Scotland yn un "eithriadol o gymhleth", yn ôl cadeirydd y comisiwn fu'n edrych ar bwerau Cymru yn ddiweddar.

Cred Paul Silk yw y byddai'r ddeddfwriaeth angenrheidiol yn cymryd "amser hir iawn" i gael ei lunio a'i basio. Mi fyddai yna broblemau mawr yng Ngogledd Iwerddon, meddai.

Yn ogystal, mi fyddai yna broblemau difrifol i'r ddwy wlad arall fyddai ar ôl. Roedd yn rhagweld cynnydd yn y galw am annibyniaeth i Gymru, ond rhybuddiodd bod y gwrthwyneb i hynny yn bosibiliad hefyd, sef closio yn y berthynas gyda Lloegr.

"Mi allai hynny olygu llai o bwerau i Gymru," meddai.

Un peth fyddai'n hanfodol yn ôl cadeirydd Chwaraeon Cymru, Laura McAllister: byddai'n "rhaid sicrhau" fod lleisiau pob rhan o gymdeithas Cymru'n cael eu clywed o ran y drafodaeth fyddai'n datblygu.

Roedd hi'n feirniadol o safon y drafodaeth gyhoeddus ynghylch polisi yng Nghymru, gan ddweud ei fod yn "blentynaidd". Yr ateb, yn ei thyb hi, fyddai symud tuag at system ffederal.

Roedd barn Mr Holtham ynglŷn â'r hyn fyddai'n digwydd yn syth wedi annibyniaeth yn hollol wahanol i weledigaeth Paul Silk. Ac roedd yn rhagweld rhywbeth penodol iawn yn digwydd.

"Os byddai pleidlais Ie mi fyddai Salmond yn canu clodydd David Cameron o fewn 24 awr," meddai.

Byddai undeb ariannol - testun ffraeo mawr rhwng y ddwy ochr - yn "sicr" o ddigwydd, a byddai rhyw gytundeb yn digwydd yn gyflym iawn ynghylch canolfan y Llynges yn Faslane.

Pam? Wel, er mwyn "osgoi panig economaidd".

"Mi fyddech chi'n synnu, yn synnu, cyn lleied o wahaniaeth fyddai rhwng annibyniaeth a devo max-max," meddai.

Roedd Mr Holtham a Mr Roderick yn gwbl gytûn ar un pwynt arall: pe bai'r Alban yn gadael y DU, byddai'r ysgytwad yn sicrhau na fyddai refferendwm am ddyfodol gweddill y wladwriaeth o fewn yr Undeb Ewropeaidd yn digwydd.

Pleidlais Na: Fyddai unrhyw beth yn newid?

Image caption Byddai pobl yr Alban yn naïf i gredu addewidion San Steffan, yn ôl Ms Wood

Yn dilyn pledlais Na, yn y tymor byr mae'n debyg y byddai Bil yr Alban yn cael ei baratoi yn San Steffan fyddai'n trosglwyddo pwerau newydd i'r wlad, yn benodol rhai dros dreth incwm a lles.

Ond dyw'r broses yma ddim yn un syml. Mi fyddai cynnwys y pecyn yn dibynnu ar ba blaid neu bleidiau fyddai mewn pŵer yn dilyn etholiad cyffredinol 2015.

Mae Carwyn Jones wedi galw am ddatganoli pwerau tebyg i Gymru a Gogledd Iwerddon ond nid yw'n glir ar hyn o bryd a fyddai hynny'n digwydd ai peidio.

Yn y gynhadledd, rhybuddiodd Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood bobl yr Alban i fod yn wyliadwrus o'r addewid o drosglwyddo mwy o bwerau.

Cafodd addewidion tebyg eu gwneud yn ystod yr ymgyrch ddatganoli yn 1979, meddai, ond fe wrthododd llywodraeth Margaret Thatcher â gweithredu yn dilyn y bleidlais Na.

Mi fyddai digwyddiadau wedi pleidlais Na yn dibynnu ar lwyddiant y llywodraeth newydd yn San Steffan, yn ôl Mr Holtham.

Gan gyfeirio at yr arolygon barn ynghylch yr etholiad cyffredinol, dywedodd mai clymblaid rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol oedd y canlyniad fwyaf tebygol.

Mi fyddai dyfodol yr undeb wedyn yn dibynnu ar lwyddiant y llywodraeth honno - pe bai'n methu, gan arwain at lywodraeth Geidwadol yn dod 'nôl i rym yn yr etholiad canlynol, mi fyddai'n fwy na thebyg yn arwain at refferendwm arall, fyddai'n "debygol iawn" o weld yr Alban yn penderfynu gadael.

Be fydd y canlyniad?

Image copyright Thinkstock
Image caption Bydd canlyniad refferendwm yr Alban yn cael ei ddatgelu ar fore Medi 19

Os yw'r arolygon barn i'w credu, sydd yn 'os' mawr yn ôl rhai, mi allai'r bleidlais fynd y naill ffordd neu'r llall.

Felly beth oedd barn rhai o siaradwyr y gynhadledd am y cynlyniad?

Roger Scully: Na petai o'n gorfod dewis, ond heb "lawer o hyder o gwbl".

Gerry Holtham: Na, oherwydd bydd ansicrwydd yn achosi i bobl newid eu meddyliau yn y gorsafoedd pleidleisio. Yn ogystal, maen nhw'n gwybod y cân nhw gyfle arall i bleidleisio ar yr un pwnc "mewn rhyw bum neu ddeng mlynedd".

Leanne Wood: "Gallai fod yn Ie - bydd yn agos."

Laura McAllister: "Amhosibl i'w ddarogan."

Vaughan Roderick: Ddim am ddyfalu, ond fe ddywedodd yr wythnos ddiwethaf na fyddai'n "mentro swllt".

Paul Silk: "Dim syniad."

Simon Jenkins: "50/50."

Straeon perthnasol