800,000 o gleifion i wynebu 'brwydr' i weld meddyg teulu

Meddyg teulu
Image caption Meddygon teulu sydd yn aml yn rhoi gofal sylfaenol - y gwasanaethau cyntaf y mae cleifion yn eu derbyn

Mae rhybudd y bydd dros 800,000 o bobl yng Nghymru yn cael trafferth gweld eu meddyg teulu erbyn 2017, gan nad yw meddygfeydd yn gallu ymdopi gyda phwysau gwaith uwch a llai o adnoddau.

Daw'r rhybudd gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (RCGP), sy'n dweud bod dros 650,000 o bobl wedi cael trafferth gweld eu meddyg y flwyddyn ddiwethaf, ac maen nhw'n pryderu gall hynny gynyddu i 800,000 erbyn 2017.

Yn ôl Cadeirydd RCGP, mae'r proffesiwn "ar ei liniau" oherwydd diffyg buddsoddiad, ac mae cleifion yn wynebu "brwydr" i gael apwyntiad yn eu meddygfa leol.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod y buddsoddiad mewn meddygon teulu wedi cynyddu ers 2003, yn ogystal â'r nifer o feddygon sy'n gweithio, ond maen nhw'n dweud bod byrddau iechyd yn gweithio i "ddatblygu ffyrdd arloesol o gynnig gwasanaethau gofal sylfaenol yn y dyfodol".

Proffesiwn 'ar ei liniau'

Mae'r RCGP yn dweud bod y ffigyrau yn dangos effaith "trychinebus" y lleihad mewn buddsoddiad mewn meddygaeth teulu.

Maen nhw'n honni bod meddygon teulu a nyrsys yn cwblhau 90% o gysylltiadau gyda chleifion o fewn y gwasanaeth iechyd, gan dderbyn llai na 8% o gyllideb y GIG yng Nghymru.

Hefyd, dywed y coleg bod meddygfeydd yn ei chael hi'n anodd delio â'r galw am apwyntiadau oherwydd diffyg meddygon.

Image caption Mae Llywodraeth Cymru yn honni bod buddsoddiad mewn meddygon teulu wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf

Mae cadeirydd y coleg, sy'n cynrychioli 1800 o aelodau o dros 2000 o feddygon teulu yng Nghymru, yn dweud ei fod yn "bryder" nad yw cleifion yn cael gweld meddygon pan maen nhw eu hangen, bod eu problemau yn gwaethygu ac yna yn cymryd amser hirach i drin yn y pen draw.

"Mae ychydig dros draean o bobl wedi dweud eu bod wedi cael trafferth gweld eu meddyg teulu felly rydyn ni'n gwybod yn barod nad yw'r gwasanaeth yn gweithio fel y dylai," meddai Dr Paul Myers.

"Mae ein cleifion angen i ni fod ar gael yn fras pan maen nhw ein hangen ac nid yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd felly rydyn ni'n gwybod bod 'na ddiffyg yn barod."

'Problemau yn gwaethygu'

Ychwanegodd y byddai'n disgwyl gweld y nifer sy'n cael trafferth yn cynyddu wrth i'r boblogaeth dyfu a'r gofynion sydd ar feddygon teulu gynyddu hefyd.

"Byddwn yn disgwyl gweld y gyfran sy'n cael trafferth yn mynd i fyny nid i lawr, i 40% yn bosib fydd yn cael trafferth yn defnyddio gwasanaethau, sy'n gyfystyr â 800,000, nid yw hynny'n rif bychan."

Image caption Un o bryderon y Coleg yw y bydd methiannau yn y gwasanaeth gofal sylfaenol yn rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau eraill, fel adrannau gofal brys.

Mae'r Coleg yn dweud bod rhai ardaloedd o'r wlad yn wynebu problemau gwaeth nac eraill.

Dywedodd Dr Myers: "Yng ngogledd Cymru - lle mae cadw meddygon a recriwtio yn broblemau mawr - rydyn ni'n wynebu problemau difrifol.

"Mae 23% o'n meddygon (yng Nghymru) dros 55 oed. Yng Nghwm Taf mae'r ganran mor uchel â 31%.

"Pan mae'r meddygon yma yn ymddeol does gyda ni neb i gymryd eu lle. Pwy fydd yn gofalu am ein poblogaeth?"

'Ymrwymiad allweddol'

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod meddygon teulu yn chwarae rôl "hanfodol" yn y gwasanaeth iechyd, a bod buddsoddiad yn y maes wedi cynyddu.

  • Yn ôl y llywodraeth, £322m cafodd ei wario yn 2003-04;
  • Yn 2012-13, £469m oedd y gwariant, cynnydd o £147m;
  • Maen nhw'n honni bod nifer y meddygon teulu wedi cynyddu o 11.2% rhwng 2003 a 2013;
  • Effaith hynny yw bod y nifer o gleifion i bob meddyg wedi gostwng 5.4%.

"Lle mae problemau recriwtio sydd angen eu datrys, mae byrddau iechyd yn gweithio gyda'r proffesiwn i ddatblygu ffyrdd arloesol o gynnig gwasanaethau gofal sylfaenol yn y dyfodol," meddai llefarydd.

Ychwanegodd bod sicrhau bod pobl yn gallu cael apwyntiadau yn "ymrwymiad allweddol" i'r llywodraeth, a'u bod yn "parhau i ganolbwyntio" ar wella mynediad i wasanaethau gofal cynradd.

Straeon perthnasol