Cwest: Gyrrwr tacsi wedi ei daro gan gar
- Cyhoeddwyd

Yr A303 ger Côr y Cewri
Mae cwest wedi clywed bod gyrrwr tacsi wedi marw ar ôl cael ei daro gan gar ger Côr y Cewri, wrth ddangos i dwristiaid o'r Unol Daleithiau ble fyddai'r lle gorau i dynnu lluniau.
Roedd Patrick Sturtivant, 37 oed o Dredegar Newydd, ger Caerffili, wedi stopio ar gilffordd ar yr A303 i adael i'r ymwelwyr dynnu lluniau ar 29 Awst.
Aeth y grwp ar draws y ffordd, ond pan ddychwelodd Mr Sturtivant cafodd ei daro gan gar.
Clywodd y cwest yng Nghaersallog iddo farw o anaf trawmatig i'r ymennydd.
Ni chafodd gyrrwr y car - Mercedes - na'r twristiaid eu hanafu.
Cafodd Mr Sturtivant ei hedfan i Ysbyty Cyffredinol Southampton, ond bu farw y diwrnod wedyn yn yr uned gofal dwys.
Cafodd y cwest ei ohirio.