Darganfod corff yn y môr

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun,
Yr heddlu yn Llandrillo-yn-rhos

Dywed Heddlu'r Gogledd fod corff dyn wedi ei ddarganfod oddi ar arfordir Llandrillo-yn-rhos, sir Conwy.

Fe wnaeth yr heddlu gyda chymorth gwylwyr y glannau ddod â'r corff i'r lan tua 11:00 dydd Sadwrn.

Bu bad achub yr RNLI o Landudno hefyd yn cynorthwyo.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Gogledd bod eu hymchwiliadau yn parhau.