Dim achos newydd yn erbyn cyn bennaeth Awema, Naz Malik
- Cyhoeddwyd

Ni fydd cyn bennaeth elusen lleiafrifoedd ethnig, Naz Malik, yn wynebu ail achos llys ar gyhuddiad o dwyll.
Yr wythnos diwethaf fe benderfynodd rheithgor fod Mr Malik, cyn bennaeth Gymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (Awema), yn ddieuog o ddau gyhuddiad yn Llys y Goron Abertawe.
Roedd un cyhuddiad yn ymwneud â siec am £2,500 ac un arall o ddefnyddio arian yr elusen i dalu am bolisi yswiriant bywyd.
Fe fethodd y rheithgor ddod i benderfyniad ar drydydd cyhuddiad, oedd yn ymwneud â siec o £9,340, ac fe gafodd y rheithgor ei ryddhau.
Ddydd Gwener dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron nad oedd yna fudd cyhoeddus i geisio am ail achos ar y cyhuddiad yn ymwneud â siec o £9,340.
Cafodd dedfryd ffurfiol ddieuog ei gofnodi yn Llys y Goron Abertawe.
Straeon perthnasol
- 29 Awst 2014