Gorymdaith wrth-Nato yng Nghasnewydd

Cyhoeddwyd
disgrifiad o’r llunMae'r protestwyr wedi bod yn llafarganu wrth orymdeithio

Mae tua 500 o ymgyrchwyr, sy'n protestio yn erbyn Nato, yn gorymdeithio drwy Gasnewydd.

Fe dreuliodd tua 100 y noson mewn gwersyll heddwch ym Mharc Tredegar neithiwr.

Bychan yw nifer y protestwyr gan fod disgwyl y byddai miloedd yn cyrraedd.

Mae'n nhw'n gorymdeithio o'r senotaff yng nghanol y ddinas tuag at gylchfan y Coldra ger gwesty'r Celtic Manor, lleoliad yr uwchgynhadledd.

Nos Iau bydd gorymdaith yng Nghaerdydd cyn i'r arweinwyr giniawa yn y castell.

disgrifiad o’r llun"Heddwch!" yw cri'r protestwyr yng Nghasnewydd
disgrifiad o’r llunYr heddlu'n ymbaratoi ar gyfer y brotest
ffynhonnell y llun, AFP/Getty
disgrifiad o’r llunYr orymdaith drwy Gasnewydd
ffynhonnell y llun, Getty Images
disgrifiad o’r llunY protestwyr ar strydoedd Casnewydd

Straeon perthnasol