Sioe Gala i nodi pen-blwydd cwmni opera yn 25 oed

Mid Wales Opera performs Albert Herring by Benjamin Britten Image copyright Mid Wales Opera
Image caption Mae Cwmni Opera Canolbarth Cymru yn perfformio ledled Cymru

Mae un o ddynwaredwyr amlycaf Prydain wedi bod yn rhoi help llaw er mwyn i gwmni opera yn y canolbarth ddathlu ei ben-blwydd yn 25 oed.

Y comedïwr Rory Bremner sy'n gyfrifol am gyfieithu Carmen ar gyfer cynhyrchiad Opera Canolbarth Cymru sy'n cael ei gyfarwyddo gan Syr Jonathan Miller.

Fe ddatblygodd y cwmni yn wreiddiol o ysgol haf ym Meifod ac mae bellach wedi ei leoli yng Nghaersws.

Fe fydd y perfformiad cyntaf o Carmen yn Theatr Hafren, y Drenewydd, nos Fercher.

Mae Rory Bremner wedi ymuno â chast yr opera ar gyfer ymarferiadau cyn y prif berfformiad.

Fe wnaeth Mr Bremner, sydd wedi cyfieithu nifer o operâu, astudio Ffrangeg ac Almaen yn y brifysgol.

Image copyright Robert Workman
Image caption Sir Jonathan Miller (canol) a Rory Bremner (ail o'r dde) a'r cast yn cynnal darlleniad

Fe wnaeth y cwmni lwyfannu ei berfformiad cyntaf yn y Drenewydd yn 1989, ac ers hynny mae'r cwmni wedi arbenigo mewn llwyfannu cynyrchiadau mewn lleoliadau llai ledled Cymru a Lloegr.

"Un o'n hamcanion yw i fynd ag opera i lefydd llai, yn bell o ganolfannau metropolitan, llefydd na fyddai yn gweld cynyrchiadau o'r fath fel arfer", meddai Nicholas Cleobury, cyfarwyddwr artistig y cwmni,

Bydd perfformiadau o Carmen yn Theatr Hafren nos Fercher, dydd Gwener a dydd Sadwrn cyn i'r sioe fyd ar daith.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.