Robson-Kanu allan o garfan Cymru oherwydd anaf
- Cyhoeddwyd

Mae asgellwr Reading, Hal Robson-Kanu wedi gorfod tynnu'n ôl o garfan Cymru i chwarae yn erbyn Andorra yng ngêm rhagbrofol cyntaf Ewro 2016.
Bydd ei gyd-chwaraewr gyda Reading, Jake Taylor yn cymryd lle'r asgellwr 25 mlwydd oed.
Nid yw Robson-Kanu wedi chwarae ers iddo ddioddef anaf i'w ben-glin mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Stevenage ym mis Gorffennaf.
Ef yw'r ail chwaraewr i dynnu'n ôl yn dilyn anaf amddiffynnwr West Ham, James Collins.
Taylor yw'r pedwerydd chwaraewr sydd heb chwarae dros Gymru i'w cynnwys yng ngharfan Chris Coleman ar gyfer y gêm ar Medi 9.
Mae disgwyl i FIFA wneud penderfyniad os yw cae artiffisial 3G newydd Andorra yn addas i chwarae'r gêm arno.
Roedd profion a gynhaliwyd ddydd Iau yn dangos fod y bêl yn rholio'n rhy gyflym ar yr wyneb ac os na fyddai Andorra yn gallu cywiro'r broblem, yna bydd y gêm yn gorfod cael ei symud i wlad arall.