Abertawe 3 - 0 West Brom

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Dyma'r drydedd buddugoliaeth mewn rhes i'r Elyrch

Abertawe ar frig yr Uwchgynghrair dros dro ar ôl curo West Brom

Fe sgoriodd Nathan Dyer ddwywaith, y gyntaf o fewn dwy funud i ddechrau'r gêm.

Fe darodd Wayne Routledge gic lwyddiannus o beniad Craig Dawson i ddyblu sgôr yr Elyrch.

Roedd mwy o gyfleoedd i'r tîm cartref yn yr ail hanner ac fe lwyddodd Dyer eto gyda phas gan Sigurdsson wedi 70 munud.

Fe ddaeth buddugoliaeth Abertawe â dechrau addawol clwb West Bromich Albion yn yr Uwchgynghrair i ben.

Disgrifiad o’r llun,
Nathan Dyer oedd seren y sioe, yn sgorio dwy gôl dros yr Elyrch

Roedd trydedd buddugoliaeth mewn rhes Abertawe yn golygu eu bod ar frig tabl yr Uwchgynghrair am gyfnod.

Mae buddugoliaeth Chelsea o 6 gôl i 3 yn erbyn Everton yn eu gosod nhw erbyn hyn ar y brig ac Abertawe yn ail.

Dywedodd eu rheolwr, Garry Monk: "Mae hyn yn ddechrau da ond dyna'i gyd. Mae 'na dipyn o ffordd i fynd a thipyn mwy o waith i'w wneud, ond mae'n dda cael arferiad o ennill."