Cyngor Abertawe: Herio'r arweinydd?
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Llafur cyngor Abertawe - David Phillips wedi clywed y dylai ddisgwyl her i'w arweinyddiaeth wedi iddo roi'r sac i ddau aelod o'r cabinet.
Fe ddiswyddodd Mr Phillips ei aelod cyllid, Rob Stewart, a Will Evans, oedd yn gyfrifol am y portffolio addysg.
Fe ddywedodd Mr Phillips fod rhaid i'w dîm "lwyr ymroi" i gyrraedd targedau'r blaid Lafur, â'r Etholiad Cyffredinol ar y gweill.
Ond yn ôl aelodau eraill y blaid ar y cyngor - mae'r awydd am her i'r arweinyddiaeth yn ddigon i orfodi Mr Phillips i gamu o'r neilltu.
Fe ddywedodd un aelod - oedd am aros yn ddienw - fod pryder am berfformiad Mr Phillips.
Ond yn ôl aelod arall, ymrwymiad Mr Stewart a Mr Evans i bolisïau'r blaid pan gawson nhw eu hethol yw'r broblem.
'Angen ailwampio'
Fe ddywedodd yr arweinydd nad oedd o'n fodlon trafod materion y grŵp Llafur, ond fe wnaeth o gadarnhau ei fod o'n teimlo'r angen i ailwampio'i dîm.
"Ychydig fisoedd sydd i fynd nes etholiad cyffredinol pwysig iawn, ac fe fydd perfformiad Llafur yn lleol yn ffactor yn yr etholiad hwnnw," meddai Mr Phillips.
"Mae'n rhaid i ni ddechrau bwrw 'mlaen â'r addewidion wnaethon ni pan gawson ni'n hethol. Roedd maniffesto Llafur yn glir - er yn heriol - ac mae'n rhaid i bawb lwyr ymroi i sicrhau llwyddiant."
Doedd Mr Stewart a Mr Evans ddim am wneud sylw.
Mewn datganiad, fe ddywedodd cyngor Abertawe: "Mae hwn yn fater gwleidyddol, mater na wnaiff swyddogion wneud sylw amdano."