IPC: Pedair efydd ar y diwrnod cyntaf
- Cyhoeddwyd

Laura Sugar oedd y cyntaf o'r athletwyr Cymreig i gael medal efydd
Fe gafodd athletwyr o Gymru bedair medal dros dîm Prydain Fawr, i gyd yn rhai efydd, yn niwrnod cyntaf gemau Pencampwriaeth yr IPC yn Abertawe.
Llwyddodd Laura Sugar, oedd yn arfer chwarae hoci i Gymru, i ennill y fedal Gymreig gyntaf drwy ddod yn drydydd yn y ras T44 100m gyda'i hamser gorau erioed o 13.71 eiliad.
Fe ddaeth y dair medal efydd arall yn y rasys 100m hefyd diolch i Jordan Howe (T35), Rhys Jones (T37) a Bradley Wigley (T38).
Dywedodd Jones, a enillodd medal efydd yng Ngemau'r Gymanwlad hefyd, ei fod "wrth ei fodd" gyda'i lwyddiant.
"Roeddwn i wedi fy anafu am y rhan fwyaf o'r gaeaf," meddai, "roedd jest cyrraedd fan hyn a Gemau'r Gymanwlad yn gamp.
"Ond mae dod i ffwrdd gyda medal ar bridd fy mamwlad yn rhywbeth arbennig iawn."
Straeon perthnasol
- 19 Awst 2014