Julian Lewis Jones: Saesneg ar S4C er mwyn denu'r di-Gymraeg?

Julian Lewis Jones
Image caption Dywedodd Julian Lewis Jones y gallai denu pobl ddi-Gymraeg i S4C helpu'r Cymry Cymraeg i greu un sianel gref.

Mae'r actor Julian Lewis Jones wedi awgrymu y dylid dangos rhaglenni teledu Saesneg ar S4C er mwyn denu gwylwyr di-Gymraeg.

Yn siarad ar Raglen Dylan Jones fel rhan o gynllun golygyddion gwadd y Post Cyntaf, dywedodd Mr Lewis Jones ei fod eisiau gweld Cymry Cymraeg a Chymry di-Gymraeg yn dod at ei gilydd i wylio'r un sianel.

Awgrymodd y byddai hynny yn gwneud S4C yn sianel i gynrychioli Cymru gyfan yn well, ac y gallai hynny helpu i sicrhau dyfodol y sianel.

Yn siarad fore Mawrth, dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones fod Julian Lewis Jones yn codi cwestiwn pwysig o ran sicrhau apêl eang i S4C a denu pobl ddi-Gymraeg.

Ond dywedodd fod dadl sylfaenol yn erbyn dangos rhaglenni Saesneg ar S4C, a honno yw y byddai troi S4C yn sianel ddwyieithog yn gallu ei thanseilio oherwydd mai'r rheswm dros ei bodolaeth yw ei bod yn sianel Gymraeg.

Mae'r BBC wedi dweud bod ganddyn nhw "bartneriaeth strategol gref gydag S4C" a bod hynny yn sicrhau bod amrywiaeth o raglenni yn cael eu cynhyrchu.

Ofn gwylio S4C

Dywedodd Julian Lewis Jones fod llwyddiant BBC Cymru gyda rhaglenni megis Dr Who yn golygu ei fod wedi dod yn "dŷ cynhyrchu i Lundain" gan olygu nad oes digon o raglenni Saesneg eu hiaith am Gymru yn cael eu cynhyrchu gan y BBC erbyn hyn.

Felly er mwyn llenwi'r bwlch hwn, a denu rhagor o wylwyr, dylai S4C ddangos rhaglenni Saesneg am Gymru.

Aeth ymlaen i ddweud y byddai denu pobl ddi-Gymraeg yn golygu eu bod yn fwy cyfarwydd â rhaglenni Cymraeg, S4C a'r Gymraeg.

Dywedodd bod nifer o'i gyd-weithwyr di-Gymraeg ar y rhaglen deledu Stella ofn gwylio S4C oherwydd nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg a bod yr iaith yn rhyw fath o rwystr yn atal pobl rhag gwylio'r sianel.

'Creu un sianel gref'

Dywedodd Mr Lewis Jones y gallai denu pobl ddi-Gymraeg helpu'r Cymry Cymraeg i greu un sianel gref.

"Mae gynnon ni sianel Gymraeg a dwi'n falch o hynny, ond neithiwr, roedd S4C yn dangos ail-ddarllediad o Mastermind Cymru o 2006 mewn slot pwysig" ac yn hwyrach roedd ail-ddarllediad arall, o'r Plas.

Ers mynd yn ddigidol a rhoi'r gorau i ddangos cynnwys Channel 4 ar S4C, meddai, mae yna bwysau i wneud pob dim yn Gymraeg, a honnodd ei bod hi'n dipyn o her i lenwi'r amserlen gyda rhaglenni ffres sy'n mynd i ddenu gwylwyr.

Wrth ymateb, dywedodd Huw Jones fod Julian Lewis Jones yn codi cwestiwn pwysig, o ran sicrhau apêl eang S4C a denu pobl ddi-Gymraeg. Ond dywedodd fod yna ffyrdd eraill o'u denu i'r sianel, heb ddangos rhaglenni Saesneg.

Yn ôl Mr Jones, safon y rhaglenni yn fwy na dim arall fydd yn galluogi S4C i ddenu pobl ddi-Gymraeg, ond dywedodd fod hefyd angen gwneud y defnydd gorau is-deitlau a defnyddio sianeli'r BBC i roi mwy o sylw i S4C ac i farchnata'r sianel.

'Cwestiwn sylfaenol - arian'

Aeth Mr Jones ymlaen i ddweud mai'r cwestiwn sylfaenol yw o ble daw'r arian i wneud mwy o raglenni. A fyddai unrhyw arian ychwanegol fyddai ar gael i wneud rhaglenni Saesneg yn dod ar draul yr arian sydd ar gael i wneud rhaglenni Cymraeg?

Dywedodd fod S4C yn cael ei ariannu i ddarparu rhaglenni Cymraeg eu hiaith, ond bod y drefn gyllido ar gyfer rhaglenni Saesneg am Gymru yn gwbl wahanol, gan olygu byddai unrhyw newid i'r drefn yn tanseilio'r drefn ariannu honno.

Yn ôl Mr Jones, mae S4C eisoes yn cymryd camau i ddenu pobl ddi-Gymraeg.

Dywedodd fod llwyddiant Y Gwyll yn dangos y ffordd o gael y gorau o bob byd drwy gydweithio i gyrraedd yr union amcan y mae Julian Lewis Jones yn sôn amdano. Yn ogystal, mae'r rhaglen Cariad@Iaith yn cael ei hysbysebu ar orsaf BBC Radio Wales, eto gyda'r nod o ddenu pobl ddi-Gymraeg.

Ymateb BBC Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: "Mae gan BBC Cymru Wales bartneriaeth strategol gref gydag S4C, sy'n sicrhau bod ystod eang o raglenni safonol gan y BBC - gan gynnwys drama, y celfyddydau a chwaraeon - yn cael eu darparu drwy gydol y flwyddyn i gynulleidfaoedd S4C.

"Rydym hefyd yn adeiladu ar ein perthynas waith ragorol, gan ymchwilio i syniadau newydd ar y cyd a chyd-gomisiynau, fel a ddangoswyd yn llwyddiant rhyngwladol y ddrama Y Gwyll/Hinterland, ac rydym yn gweithio i hwyluso ymddangosiad S4C ar iPlayer ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt."

Straeon perthnasol