Refferendwm yr Alban: Cwestiynau Cymreig

Tomos Livingstone
Uned Wleidyddol BBC Cymru

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun, Bydd canlyniad refferendwm yr Alban yn glir ar Fedi 19 ond gallai'r 23ain fod yn ddifyr hefyd

Mae'n siŵr fod cylch coch o amgylch Medi'r 18ed ar eich calendr eisoes - dyna ddiwrnod refferendwm annibyniaeth yr Alban, wrth gwrs - ond efallai fod hi'n werth tanlinellu'r 23ain hefyd.

Ar y diwrnod hwnnw fydd Carwyn Jones yn codi ar ei draed yn y Senedd i gynnig ei ddadansoddiad o oblygiadau'r refferendwm i bobol Cymru.

Beth fydd gan y Prif Weinidog i ddweud? Gallwn ei faddau, efallai, os taw edrych ar ddalen wag o bapur yw ei hanes hyd yn hyn.

Y gwir amdani yw nad oes gan fawr o neb syniad clir o sut y byddai pleidlais 'Ie' yn y refferendwm yn effeithio ar weddill Ynysoedd Prydain.

Nifer o gwestiynau, dim llawer o atebion

Am resymau tactegol - yr awydd i beidio rhoi mantais i'r SNP yn ystod yr ymgyrch - mae llywodraeth Prydain yn mynnu nad oes paratoadau yn mynd rhagddynt ar gyfer Alban annibynnol.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun, Ble fyddai cartref newydd Trident tase'r arfau'n gorfod cael eu symud o Faslane?

Sut siâp fyddai ar y trafodaethau rhwng Caeredin a Llundain? Beth fyddai'n digwydd i arfau niwclear Trident, sy ar hyn o bryd yn swatio dan y dŵr yn Faslane yng Ngorllewin yr Alban? A fyddai'r wlad newydd yn cael rhannu'r bunt, a sut fyddai hynny'n gweithio'n ymarferol? A oes modd didoli asedau, sefydliadau, y ddyled gyhoeddus ac yn y blaen mewn ffordd sy'n dderbyniol i bawb? Does neb bron yn fodlon cynnig atebion.

I fod yn deg â Carwyn Jones, mae e wedi bod ymysg y mwya' parod ymysg y dosbarth llywodraethol i drafod beth allai ddigwydd wedi i'r Alban fwrw pleidlais.

Confensiwn cyfansoddiadol

Digon llugoer bu'r ymateb i'w awgrym y gallai'r taflegrau niwclear symud i Aberdaugleddau pe bai 'na bleidlais 'ie', ond Mr Jones oedd un o'r cyntaf i awgrymu bod angen confensiwn cyfansoddiadol ar draws Prydain, i setlo pwy sy'n rheoli beth unwaith ac am byth.

Mae mwy o obaith i hynny ddigwydd nag i'r llongau tanfor symud i Sir Benfro, efallai!

Mewn pôl piniwn ar ran BBC Cymru yn gynharach eleni, roedd 61% o bobol yn sicr na fyddai pleidlais 'Ie' yn yr Alban yn achosi unrhyw wahaniaeth i'w bywydau dydd-i-ddydd.

14% oedd yn teimlo y dylai Cymru, dan y fath amgylchiadau, ddilyn yr Alban ar y trywydd tuag at annibyniaeth.

Efallai nad mater i'r Cymry yn unig fyddai hynny ta beth; un o bryderon Mr Jones yw y byddai'r rhod yn troi yn Lloegr pe bai'r Alban yn gadael.

Sefyllfa Lloegr

Beth pe bai'r Saeson yn colli diddordeb mewn undeb â Chymru a Gogledd Iwerddon?

Ac ydy pryder Mr Jones yn cynnig cyfle i Blaid Cymru? Fe fyddai pleidlais 'ie' yn trawsnewid y drafodaeth wleidyddol yng Nghymru - a fyddai Leanne Wood a Phlaid Cymru yn gallu manteisio ar hynny? A sut?

Dyma i ni stori felly ynglŷn â'r Alban, cenedl o 5m gydag economi gryfach a gwariant cyhoeddus uwch na ni'r Cymry.

Ond mae'n stori hefyd ynglŷn â gweddill y Deyrnas Unedig, ein barn ni am yr undeb, ein perthynas â'n cymdogion a manteision ac anfanteision aros gyda'n gilydd neu ymwahanu.

Fe wnawn ni geisio cynnig rhai atebion i chi yma ar BBC Cymru Fyw dros yr wythnosau nesaf.

Beth bynnag fydd yn digwydd, fe fydd darlun cyflawn 'da chi ymhell cyn i Carwyn Jones godi ar ei draed ar y 23ain.