Buddugoliaeth hanesyddol i Abertawe

Manchester United 1 Abertawe 2

Mae Abertawe yn dathlu buddugoliaeth enwog yn erbyn Manchester United, ar ôl iddyn nhw guro United am tro cyntaf erioed mewn gem Uwch Gynghrair. Sgoriodd Gylfi Sigurdsson y gôl allweddol tua ugain munud o'r diwedd, wrth i'r elyrch fwynhau dechrau perffaith i'r tymor newydd.

Image copyright Getty Images
Image caption Gylfi Sigurdsson yn ennill y gêm i Abertawe

Sgoriodd y Swans gyda'u hymosodiad da cyntaf yn Old Trafford, Sung- Yeung Ki ar ôl 28 munud. Fe wnaeth Ki fanteisio ar ei gyfle ar ôl derbyn y bêl gan Sigurdsson. Roedd hi'n ergyd pendant o ymyl y cwrt cosbi gan y chwaraewr o Dde Corea.

Roedd hi'n ddechrau anodd i reolwr newydd United, Louis va Gaal. Ychydig iawn o argraff wnaeth United yn ystod hanner cyntaf yn llawn rhwystredigaeth i gefnogwyr coch Manceinion. Am gyfnodau hir roedd Abertawe yn ymddangos yn gyfforddus wrth i'r amddiffyn gadw Rooney a'i gyfeillion o dan reolaeth.

Ond ar ôl naw munud o'r ail hanner fe ddaeth ymateb Wayne Rooney - wrth iddo sgorio ar ôl derbyn y bel o gic cornel.

Image copyright PA
Image caption Wayne Rooney yn taro 'nol i United

Roedd amddiffyn Abertawe yn fwy sigledig ar ôl gol United, ond fe ddaeth eu hail gol tua ugain munud o'r diwedd.

Gylfi Sigurdsson yn sgorio ar ôl gwaith amddiffynnol amheus gan y tîm cartref.

Image copyright Getty Images
Image caption Ki yn dathlu ar ôl sgorio i Abertawe.

Roedd 'na orfoleddu mawr ymhlith cefnogwyr Abertawe - wrth i'r tymor newydd yn yr Uwch Gynghrair ddechrau mewn ffordd bythgofiadwy i'r jacs.

YmatebGarry Monk, Rheolwr Abertawe

"'Ni wedi bod yn gweithio yn galed ar ein siâp amddiffynnol ac fe allwn wella ar hynny, ond roedd yna arwyddion da yn y ffordd 'wnaethon ni gadw gyda'n gilydd, a'r goliau yn erbyn tîm sy ag adnoddau fel Manchester United.

Ni wedi bod yn gweithio ar ochr meddyliol pethau - hyd yn oed pan mae pethau yn mynd o'i le, ni'n dal i gredu."