Elyrch yn cytuno ffi gyda Napoli am Federico Fernandez
- Cyhoeddwyd

Mae Clwb Pêl-Droed Abertawe wedi cytuno ar ffi gyda chlwb Napoli ar gyfer amddiffynnwr yr Ariannin, Federico Fernandez.
Y gred yw bod rheolwr yr Elyrch, Garry Monk, yn awyddus i arwyddo Fernandez wedi i Chico Flores gwblhau ei drosglwyddiad i Lekhwiya SC yn Qatar.
Bydd Abertawe yn talu tua £7m am y chwaraewr, sydd yn agos at gytuno ar dermau personol gyda'r clwb.
Mae Abertawe yn gobeithio cwblhau prawf meddygol Fernandez erbyn dydd Gwener, ond ni fydd yn chwarae yn gêm gyntaf y tymor yn erbyn Mancester United ddydd Sadwrn.
Fe wnaeth Fernandez chwarae 13 gwaith i Getafe tra ar fenthyg y tymor diwethaf, a chwaraeodd ym mhedair o gemau'r Ariannin yn ystod Cwpan y Byd ym Mrasil.
Straeon perthnasol
- 11 Awst 2014
- 23 Gorffennaf 2014
- 17 Gorffennaf 2014