Casnewydd 0-2 Wycombe

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
disgrifiad o’r llunWycombe yn sgorio yn erbyn Casnewydd.

Colli adref oedd hanes Casnewydd yn eu gêm agoriadol yn yr Ail Adran yn erbyn Wycombe Wanderers.

Fe sgoriodd yr ymwelwyr ddwy gôl mewn pum munud yn fuan cyn yr egwyl - Peter Murphy ac yna Paris Cowan-Hall yn rhwydo.

Roedd Casnewydd yn chwarae'n well yn yr ail hanner, ond gan fethu â tharo'n ôl.