Rhybudd am dywydd garw i Gymru
- Cyhoeddwyd

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae disgwyl i law trwm a gwyntoedd cryfion daro Cymru dros y 24 awr nesaf.
Maen nhw wedi cyhoeddi Rhybudd Melyn ar gyfer Cymru gyfan wrth i weddillion cyn-gorwynt Bertha symud dros Fôr yr Iwerydd tuag at y DU.
Mae'r rhagolygon yn awgrymu y bydd rhan helaeth y glaw a'r gwynt yn cyrraedd yn oriau mân bore Sul.
Mae disgwyl gwyntoedd cryfion ar hyd yr arfordir.
Tarodd corwynt Bertha ynysoedd ym Môr y Caribî, ac ers hynny mae gweddillion y corwynt wedi bod yn symud ar draws yr Iwerydd.
Mae disgwyl iddi gyrraedd Cymru yn hwyr nos Sadwrn, gyda rhan helaeth y glaw trwm wedi'i ddarogan ar gyfer oriau mân dydd Sul.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd: "Mae posibilrwydd y byddwn yn gweld glaw trwm, mwy na 50mm, a gwyntoedd ar y glannau o fwy na 60mya."
Ond ychwanegodd ei bod hi'n anodd proffwydo union natur y storm, a gallai basio heibio heb unrhyw drafferthion.